Babilon

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Un o'r addurniadau ar Borth Ishtar

Dinas-wladwriaeth ym Mesopotamia, yn yr hyn sy' nawr yn Irac, oedd Babilon, hefyd Babylon (Groeg: Βαβυλώνα, o'r Acadeg Babilu, efallai "Porth y duwiau". Saif tref Al Hillah ar y safle heddiw; ar lan Afon Ewffrates, tua 85 km (55 milltir) i'r de o Baghdad. Enwir talaith Bābil, y mae Al Hillah yn brifddinas iddi, ar ôl Babilon.

Ceir y cofnod cyntaf am ddinas Babilon yn nheyrnasiad Sargon o Akkad, tua'r 24ain ganrif CC. O tua'r 20fed ganrif CC, meddiannwyd hi gan yr Amoriaid. Sefydlwyd Brenhinllin Gyntaf Babilon gan Sumu-abum, ond ni ddaeth yn bwerus nes iddi ddod yn brifddinas ymerodraeth Hammurabi tua'r 18fed ganrif CC. Dinistriwyd y ddinas gan Sennacherib, brenin Assyria yn 689 CC, ond ail-adeiladwyd hi gan ei olynydd Esarhaddon.

Enillodd Babilon ei hannibyniaeth oddi wrth Assyria dan Nabopolassar yn 626 CC, a dath yn brifddinas Ymerodraeth Newydd Babilon. Dan ei fab, Nebuchodonosor II (604–561 CC) daeth y ddinas yn un o ryfeddodau y byd. Ymhlith yr enwocaf o'r hyn a adeiladodd Nebuchodonosor roedd Porth Ishtar a Gerddi Crog Babilon.

Gorchfygwyd Ymerodraeth Babilon gan y Persiaid dan Cyrus Fawr yn 539 CC. Llwyddodd Cyrus i feddiannu'r ddinas trwy newid cwrs Afon Ewffrates i alluogi ei filwyr i fynd i mewn iddi. Bu'n rhan o Ymerodraeth Persia nes i Alecsander Fawr ei chipio yn 331 CC. Yma y bu farw Alecsander yn 323 CC, ac y rhannwyd ei ymerodraeth rhwng ei gadfridogion yn ôl telerau Rhaniad Babilon. O hynny ymlaen, dirywiodd y ddinas yn raddol.

Babilonia yng nghyfnod Hammurabi

Gweler hefyd[golygu]