Ymerodraeth Persia

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Ymerodraeth Persia oedd yr enw ar nifer o ymerodraethau yn y diriogaeth oedd yn dwyn yr enw Persia ac a elwir yn awr yn Iran. Y mwyaf adnabyddus o'r rhain oedd yr Ymerodraeth Achaemenid (648 - 330 CC.). Cnewyllyn yr ymerodraeth oedd yr ardal sydd nawr yn dalaith Fars yn Iran. Sylfaenydd Ymerodraeth Persia oedd Cyrus Fawr, a orchfygodd ymerodraeth y Mediaid ac a ymestynnodd yr ymerodraeth dros y rhan fwyaf o'r Dwyrain Canol, yn cynnwys tiriogaethau Babylon, y Ffeniciaid, a'r Lydiaid. Ychwanegodd mab Cyrus, Cambyses II, yr Aifft at yr ymerodraeth.

Ymestynnwyd ffiniau'r ymerodraeth ymhellach gan Darius I. Arweniodd ei fyddinoedd cyn belled a dyffryn Afon Indus a meddiannodd Thrace yn Ewrop. Methodd ymgyrch yn erbyn Groeg pan orchfygwyd byddin Bersaidd ym Mrwydr Marathon yn 490 CC.. Rhannodd Darius yr ymerodraeth i tua ugain talaith (satrapi), a symudodd y brifddinas i Susa, gerllaw Babylon.

Yr Ymerodraeth Achaemenid yn ystod teyrnasiad Darius I.

Ymosododd mab Darius, Xerxes I ar y Groegiaid gyda byddin enfawr ddeng mlynedd yn ddiweddarach, ond gorchfygwyd ei lynges ym Mrwydr Salamis yn 480 CC. a gorchfygwyd ei fyddin ym Mrwydr Plataea yn 479 CC..

Yn ddiweddarach gwanychodd yr ymerodraeth, yn enwedig ar ôl marwolaeth Artaxerxes III Ochus yn 338 CC. Yn 334 CC. glaniodd Alecsander Fawr, brenin Macedonia, yn Asia Leiaf a meddiannodd Lydia, Ffenicia a'r Aifft cyn gorchfygu byddin Darius III ym Mrwydr Gaugamela yn 331 CC. a chipio Susa. Sefydlodd Alecsander ei ymerodraeth ei hun, ond ymrannodd wedi ei farwolaeth.

Yn ddiweddarach datblygodd Ymerodraeth y Parthiaid (250 CC. - 226 OC.) yn yr un ardal. Yn 226 cipiodd Ardashir y brifddinas Ctesiphon, gan sefydlu Ymerodraeth Bersaidd dan linach y Sassanid, a barhaodd hyd y flwyddyn 651.