Brwydr Marathon

Oddi ar Wicipedia
Marathon heddiw

Ymladdwyd Brwydr Marathon ym mis Medi 490 CC. rhwng yr Ymerodraeth Bersaidd a'r Atheniaid, ar wastadedd Marathon, ychydig i'r gogledd-ddwyrain o Athen. Daw'r wybodaeth am y frwydr yn bennaf o waith yr hanesydd Groegaidd Herodotus.

Roedd dinas-wladwriaethau Groegaidd Ionia wedi gwrthryfela yn erbyn yr Ymerodraeth Bersaidd, ac wedi derbyn cymorth gan Athen. Penderfynodd Darius I, brenin Persia yrru byddin i gosbi'r Atheniaid ac i ymgorffori Groeg yn yr ymerodraeth. Gyrrodd fyddin dan Datis ac Artaphernes gyda llynges, i gipio ynysoedd y Cyclades ac yna ymosod ar Eretria ac Athen. Gyda hwy roedd Hippias, cyn-unben Athen, oedd wedi ei alltudio ac yn gobeithio cael ei enwi'n rheolwr y ddinas wedi iddi gael ei gorchfygu gan y Persiaid. Cipiwyd Eretria, ac yna defnyddiwyd y llynges i lanio'r fyddin Bersaidd, oedd yn ôl barn haneswyr diweddar rhwng 45,000 a 60,000 o filwyr, ym mae Marathon, heb fod ymhell o Athen.

Gwrthwynebwyd hwy gan fyddin o tua 10,000 o Atheniaid a 1,000 o wŷr o ddinas Plataea. Yn ôl Herodotus yr oedd y rhedwr Pheidippides wedi ei yrri i Sparta i ofyn am gymorth. Dychwelodd gyda'r neges na allai'r Spartiaid ddod ar unwaith oherwydd gŵyl grefyddol, ond y byddent yn gyrru byddin cyn gynted ag y byddai'r ŵyl wedi gorffen. Ar y ffordd cafodd weledigaeth o'r duw Pan, a ddaroganodd fuddugoliaeth i'r Groegwyr yn erbyn Persia.

Ymladdwyd y frwydr cyn i'r Spartiaid gyrraedd, gyda'r Groegiaid dan arweiniad Miltiades a'r polemarch Callimachus. Bu'r frwydr yn fuddugoliaeth fawr i'r Groegiaid; yn ôl Herodotus lladdwyd 6,400 o Bersiaid. Llwyddodd y gweddill i ffoi i'w llongau a hwylio ymaith. Dywed Herodotus mai dim ond 192 o Atheniaid ac 11 o wŷr Plataea a laddwyd, yn ei plith Callimachus y polemarch. Ymhlith y milwyr yn y fyddin Athenaidd roedd y dramodydd enwog Aeschylus.

Y sefyllfa ar ddechrau brwydr Marathon; safle'r Groegiaid mewn glas, y Persiaid mewn coch.
Mae asgell dde ac asgell chwith y fyddin Roegaidd (glas) yn troi i mewn i amgylchynu'r fyddin Bersaidd (coch).

Claddwyd y Groegiaid a laddwyd yn y frwydr ar faes y gad, a chodwyd tomen uwch eu bedd. Ar y bedd rhoddwyd epigram gan y bardd Simonides:

Ελλήνων προμαχούντες Αθηναίοι Μαραθώνι
χρυσοφόρων Μήδων εστόρεσαν δύναμιν
(Yr Atheniaid, amddiffynwyr y Groegiaid, ym Marathon
a ddinistriodd rym y Mediaid eurwisg)

Mae traddodiad diweddarach (nid yw Herodotus yn sôn amdano) fod Pheidippides wedi rhedeg o faes y frwydr i Athen gyda'r newyddion am y fuddugoliaeth, ac yna wedi cwympo'n farw wedi dweud ei neges. O'r stori yma y rhoddwyd yr enw Marathon i'r ras fodern.

Rhoddodd y frwydr yma ddiwedd ar ymdrech gyntaf yr Ymerodraeth Bersaidd i orchfygu Gwlad Groeg. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach daeth mab Darius, Xerxes I gyda byddin a llynges lawer mwy i wneud ail ymgais.