Ïonia

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Ionia)
Jump to navigation Jump to search
Lleoliad Ïonia yng ngorllewin Anatolia.

Gwlad Roegaidd ar arfordir gorllewinol Anatolia neu Asia Leiaf (Twrci heddiw) yn oes yr Henfyd oedd Ïonia (Hen Roeg: Ιωνία). Roedd yn cynnwys y diriogaeth ar hyd yr arfordir o Phocaea yn y gogledd ger aber Afon Hermus (yn awr Afon Gediz), i Miletus yn y de, ger aber Afon Maeander, ac roedd yn cynnwys ynysoedd Chios a Samos. Roedd yn ffinio ag Aeolia yn y gogledd, a Lydia yn y dwyrain ac a Caria yn y de.

Yn ôl chwedlau'r Ïoniaid, cafodd y llwyth hwnnw ei enw oddi wrth Ïon, mab y duw Apolon a Creusa, merch brenin Athen. Yn ôl traddodiad y Groegiaid, sefydlwyd dinasoedd Ïonia gan wladychwyr o ddinasoedd Gwlad Groeg a yrwyd hwynt o'r Peloponnesus gan yr Achiaid, a symudasant i Attica, ac o'r ardal honno aeth minteioedd ohonynt i sefydlu ar ororau Asia tua 1050 CC. Dinasoedd Ïonia oedd Miletus, Myus, Priene, Effesus, Colophon, Lebedus, Teos, Erythrae, Clazomenae a Phocaea. Yn ddiweddarach meddiannwyd Smyrna (İzmir yn awr) gan yr Ïoniaid.

Yn ystod teyrnasiad Cresws (560 - 545 CC.) fel brenin Lydia, daeth dinasoedd Ïonia dan ei reolaeth ef. Pan orchfygwyd Cresws gan Cyrus Fawr, brenin Persia, daeth Ïonia yn rhan o Ymerodraeth Persia. Tua 500 CC gwrthryfelodd dinasoedd Ïonia yn erbyn y Persiaid, a chawsant rywfaint o gymorth gan Athen ac Eretria. Arweiniodd hyn at Ryfeloedd Groeg a Phersia o 491 CC.