Aeolis

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Aeolia)
Jump to navigation Jump to search
Aeolis
Izmir016.jpg
Math historical region Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Gwlad Twrci Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 39°N 27°E Edit this on Wikidata
Lleoliad Aeolis

Roedd Aeolis (Groeg Αιολίς Aiolís) neu Aeolia (Groeg Αιολία Aiolía) yn ardal yng ngogledd-orllewin Asia Leiaf yn y cyfnod clasurol. Roedd y rhan fwyaf o'r diriogaeth gerllaw'r arfordir, ac roedd yn cynnwys ynys Lesbos) a nifer o ynysoedd llai. Roedd yn ffinio a Mysia yn y gogledd, Ionia yn y de a Lydia yn y dwyrain. Yn y cyfnod cynnar roedd y deuddeg dinas bwysicaf yn Aeolis yn annibynnol, ac mewn cynghrair a'i gilydd: Cyme (neu Phriconis), Larissae, Neonteichos, Temnus, Cilla, Notium, Aegiroessa, Pitane, Aegeaeae, Myrina, Gryneia, a Smyrna.