Athen

Oddi ar Wicipedia
Athen
Mathdinas, prifddinas, dinas fawr, y ddinas fwyaf, metropolis, Free city, dinas-wladwriaeth Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlAthena Edit this on Wikidata
LL-Q7913 (ron)-KlaudiuMihaila-Atena.wav, De-Athen.ogg, Sv-aten.ogg Edit this on Wikidata
Poblogaeth643,452 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • c. Mileniwm 7. CC (tua) Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethKostas Bakoyannis Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2, EET, UTC+03:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
NawddsantDionysius yr Areopagiad Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Groeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBwrdeistref Athens, Achaea Edit this on Wikidata
GwladBaner Gwlad Groeg Gwlad Groeg
Arwynebedd39 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr170 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaNea Filadelfeia, Zografou Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau37.9842°N 23.7281°E Edit this on Wikidata
Cod post104 xx-106 xx, 111 xx-118 xx, 121 xx-124 xx Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethKostas Bakoyannis Edit this on Wikidata
Map
Am enghreifftiau eraill o'r ffurf Saesneg ar enw'r ddinas, gweler Athens.

Prifddinas Gwlad Groeg ac un o'r dinasoedd hynaf yn hanes y byd yw Athen (Groeg: Αθήνα Athína). Fe'i henwir ar ôl Athena, nawdd-dduwies y ddinas. Fe'i lleolir ar wastadir yn ne-ddwyrain y wlad yn rhanbarth Attica, ger Gwlff Saronica. Athen yw canolfan economaidd, gweinyddol a diwylliannol Gwlad Groeg. Mae'n cael ei llywodraethu fel uned gyda'i phorthladd Piraeus. Mae poblogaeth Athen oddeutu 643,452 (2021)[1].

Mae'r ddinas yn cyfuno'r hynafol a diweddar heb ddim ond ychydig o olion o'r cyfnod rhwng cwymp yr Ymerodraeth Rufeinig a'r 19g. Mae twristiaeth yn bwysig i'r economi. Daw pobl o bob cwrdd o'r byd i weld ei henebion enwog fel y Parthenon a'r Erechtheum ar yr Acropolis. Ger yr Acropolis mae'r Theseum, un o'r temlau clasurol gorau, a'r hen Agora (marchnad) yn ogystal. I'r gogledd a'r dwyrain o'r Acropolis mae'r rhan fwyaf o'r ddinas ddiweddar yn gorwedd, gan gynnwys ei phrifysgol, a sefydlwyd yn 1837.

Geirdarddiad[golygu | golygu cod]

Yn yr Hen Roeg, enw'r ddinas oedd Ἀθῆναι, enw lluosog. Mewn Groeg gynharach, fel Groeg Homerig, defnyddid y ffurf unigol Ἀθήνη (Athḗnē).[2] Mae'n debyg nad yw gwreiddyn y gair o darddiad Groegaidd nac Indo-Ewropeaidd, ac o bosibl mae'n weddillion swbstrad Attica Cyn-Roeg. Yng Ngroeg yr Henfyd, dadleuwyd ai'r ddinas Athen gymerodd ei henw oddi wrth y dduwies Athena (Attic Ἀθηνᾶ, Athēnâ, Ionic Ἀθήνη, Athḗnē, a Doric Ἀθάνα, Athā́nā) neu ai Athena a gymerodd ei henw o'r ddinas. Erbyn hyn, mae ysgolheigion modern yn cytuno mai'r dduwies a gymerodd ei henw o'r ddinas, oherwydd bod y diweddglo -ene yn gyffredin mewn enwau llefydd, ond yn brin ar gyfer enwau personol.[3][4]

Yn ôl y chwedl am sefydlu Athenaidd hynafol, cystadleuai Athena, duwies doethineb, yn erbyn Poseidon, Duw'r Moroedd, am nawdd i'r ddinas ddienw; cytunwyd y byddai pwy bynnag a roddai'r anrheg gorau i'r Atheniaid yn dod yn noddwr iddynt ac yn penodi Cecrops, brenin Athen, yn farnwr.[5] Yn ôl Pseudo-Apollodorus, tarodd Poseidon y ddaear gyda'i dryfer a tharodd ffynnon dŵr hallt o flaen ei lygad. Mewn fersiwn amgen o'r chwedl gan Vergil, rhoddodd Poseidon y ceffyl cyntaf i'r Atheniaid yn anrheg. Yn y ddwy fersiwn, cynigiodd Athena yr olewyddan ddof gyntaf i'r Atheniaid.[6] Derbyniodd Cecrops yr anrheg hon a chyhoeddwyd mai Athena yn dduwies ar ddinas Athen.[5][6]

Hanes[golygu | golygu cod]

Y dystiolaeth hynaf o bresenoldeb dynol yn Athen yw Ogof Schist, sydd wedi'i dyddio i rhwng yr 11g a'r 7fed mileniwm CC. Credir fod pobl wedi trigo yn Athen yn ddi-dor am o leiaf 5,000 o flynyddoedd.[7][8] Ni ddaeth Athen i amlygrwydd tan y 6g CC dan Pisistratus a'i feibion.[9] Tua 506 CC sefydlodd Cleisthenes ddemocratiaeth i wŷr rhydd y ddinas. Erbyn y ganrif nesaf Athen oedd prif ddinas-wladwriaeth Groeg yr Henfyd. Llwyddodd i wrthsefyll grym yr Ymerodraeth Bersiaidd diolch i nerth ei llynges. O'r cyfnod hwnnw (Rhyfeloedd Groeg a Phersia) mae'r Muriau Hir, sy'n cysylltu'r ddinas â Phriraeus, yn dyddio, ynghyd â'r Parthenon. Dan lywodraeth Pericles cyrhaeddodd Athen brig ei diwylliant a'i dylanwad yn yr Henfyd, gydag athroniaeth Socrates a dramâu Ewripides, Aeschylus a Soffocles. Daeth rhyfel â Sparta, oedd yn cystadlu ag Athen am arweinyddiaeth yn y byd Groegaidd gan wrthwynebu ei pholisïau imperialaidd, yn y Rhyfel Peloponesaidd (431-404 CC), a cholli fu hanes Athen. Adferodd ei goruchafiaeth yn araf ac yn y cyfnod nesaf yn ei hanes gwelwyd ffigurau fel Platon, Aristotlys ac Aristophanes yn adfer bri Athen fel prifddinas dysg a diwylliant yr Henfyd.

Cymharol fyr fu'r cyfnod llewyrchus olaf, fodd bynnag. Yn 338 CC gorchfygwyd Athen gan Philip o Facedon ac erbyn yr 2g CC roedd hi'n rhan o'r Ymerodraeth Rufeinig. Ond er bod grym gwleidyddol Athen wedi diflannu parheai i fod yn ddylanwad mawr ar fywyd diwyllianol y byd Rhufeinig a Helenistaidd am ganrifoedd. Hyd yn oed ar ôl iddi gael ei goresgyn dros dro gan lwythi Germanaidd yn y 4g roedd ei hysgolion rhethreg ac athroniaeth yn dal i flodeuo nes iddynt gael eu cau gan Justinian yn 529. Dirywiodd y ddinas yn gyflym yn y cyfnod Bysantaidd. Cwympodd i'r Croesgadwyr yn 1204 ac roedd dan reolaeth Twrci o 1456 hyd 1833 pan ddaeth yn brifddinas y deyrnas Roeg annibynnol newydd. Cafodd ei meddiannu gan yr Almaenwyr yn yr Ail Ryfel Byd. Erbyn heddiw mae'n ddinas fawr a llewyrchus prifddinas y wladwriaeth Roegaidd.

Yr amgylchedd[golygu | golygu cod]

Bryn Lycabettus o barc Pedion tou Areos

Erbyn diwedd y 1970au, roedd llygredd Athen wedi dod mor ddinistriol nes i Constantine Trypanis, Gweinidog Diwylliant Gwlad Groeg ar y pryd, gyhoeddi: "... mae addurniadau manwl pum cerflun pwysicaf yr Erechtheum wedi dirywio'n ddifrifol, tra bod wyneb gwyn y ceffyl ar ochr orllewinol Parthenon bron â chael ei ddileu. " Arweiniodd hyn at gyfres o fesurau a gymerwyd gan awdurdodau'r ddinas trwy gydol y 1990au i wella ansawdd aer y ddinas; anaml iawn y ceir mwrllwch bellach.[10]

Mae'r mesurau a gymerwyd gan awdurdodau Gwlad Groeg trwy gydol y 1990au wedi gwella ansawdd yr aer dros Fasn Attica. Serch hynny, mae llygredd aer yn dal i fod yn broblem i Athen, yn enwedig yn ystod dyddiau poeth yr haf. Ddiwedd mis Mehefin 2007, cafodd rhanbarth Attica nifer o danau gan gynnwys tân a losgodd gyfran sylweddol o barc cenedlaethol coediog mawr ym Mount Parnitha, a ystyriwyd rhan yn hanfodol o'r eco-system a oedd yn cynnal ansawdd amgylchedd Athen trwy gydol y flwyddyn. Difrodwyd y parc, ac arweiniodd hyn at bryderon fod y deddfau a basiwyd yn annigonol.[11][11][12]

Adeiladau a chofadeiladau[golygu | golygu cod]

  • Academi
  • Agora
  • Amgueddfa Bysantaidd
  • Erechtheon
  • Neuadd y Ddinas
  • Neuadd Zappeion
  • Parthenon
  • Senedd
  • Stadiwm Kallimarmaro
  • Teml Hephaestos

Atheniaid enwog[golygu | golygu cod]

Yr Erechtheum ar yr Acropolis gyda cherfluniau'r Karyatides
Golygfa ar Athen o Lykavittos

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Αποτελέσματα Μόνιμου Πληθυσμού κατά Δημοτική Κοινότητα" (yn Groeg Modern). 21 Ebrill 2023.CS1 maint: unrecognized language (link)
  2. Fel gyda: Od.7.80.
  3. Beekes, Robert S. P. (2009), Etymological Dictionary of Greek, Leiden and Boston: Brill, p. 29
  4. Burkert, Walter (1985), Greek Religion, Cambridge, Massachusetts: Harvard University Press, p. 139, ISBN 0-674-36281-0, https://archive.org/details/greekreligion0000burk/page/139
  5. 5.0 5.1 Kerényi, Karl (1951), The Gods of the Greeks, London, England: Thames and Hudson, p. 124, ISBN 0-500-27048-1, https://archive.org/details/godsofgreeks00kerrich/page/124
  6. 6.0 6.1 Garland, Robert (2008). Ancient Greece: Everyday Life in the Birthplace of Western Civilization. New York: Sterling. ISBN 978-1-4549-0908-8.
  7. S. Immerwahr, The Athenian Agora XIII: the Neolithic and Bronze Ages, Princeton 1971
  8. Tung, Anthony (2001). "The City the Gods Besieged". Preserving the World's Great Cities: The Destruction and Renewal of the Historic Metropolis. New York: Three Rivers Press. t. 266. ISBN 0-609-80815-X.
  9. "v4.ethnos.gr – Οι πρώτοι… Αθηναίοι". Ethnos.gr. Gorffennaf 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 Gorffennaf 2011. Cyrchwyd 26 Hydref 2018.
  10. "Acropolis: Threat of Destruction". Time Magazine. Time.com. 31 Ionawr 1977. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-08-23. Cyrchwyd 3 Ebrill 2007.
  11. 11.0 11.1 Kitsantonis, Niki (16 Gorffennaf 2007). "As forest fires burn, suffocated Athens is outraged". International Herald Tribune. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Medi 2007. Cyrchwyd 3 Chwefror 2008.
  12. "copi archif" (yn el) (.doc) (Press release). Hellenic Ministry for the Environment, Physical Planning, & Public Works. 18 Gorffennaf 2007. Archifwyd o y gwreiddiol ar 2008-02-16. https://web.archive.org/web/20080216035359/http://www.minenv.gr/download/2007-07-18.sinenteksi.typoy.Parnitha.doc. Adalwyd 15 Ionawr 2008. "Συνολική καμένη έκταση πυρήνα Εθνικού Δρυμού Πάρνηθας: 15.723 (Σύνολο 38.000)"