Parthenon

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ochr orllewinol y Parthenon

Teml yn ninas Athen wedi ei chysegru i'r dduwies Athena yw'r Parthenon (Groeg: Παρθενών). Saif ar yr Acropolis uwchben y ddinas.

Y Parthenon yw'r enwocaf o'r adeiladau sydd wedi goroesi o'r cyfnod clasurol yng Ngroeg, ac mae'n symbol o ddinas Athen. Cafodd ei adeiladu i gymeryd lle teml hŷn i Athena a ddinistriwyd gan y Persiaid yn 480 CC. Adeiladwyd y Parthenon dan arolygaeth y cerflunydd enwog Phidias, oedd hefyd yn gyfrifol am y cerfluniau o'i gwmpas. Dechreuwyd gweithio ar yr adeilad gan y penseiri Iktinos a Kallikrates, yn 447 CC, ac roedd wedi ei orffen erbyn 432, er i'r gwaith ar y cerfluniau barhau hyd o leiaf 431.

Am gyfnod bu'n gweithredu fel trysorfa i Gynghrair Delos, a ddatblygodd yn ymerodraeth Athen. Yn y 6ed ganrif daeth yn eglwys Gristionogol, ac yn y 1460au fe'i trowyd yn fosg. Ar 28 Medi 1687, ffrwydrwyd powdwr gwn oedd yn cael ei gadw tu mewn pan daniodd byddin Fenis arno wrth ymladd yr Ottomaniaid. Yn 1806, cymerodd Thomas Bruce, 7fed Iarll Elgin lawer o'r cerfluniau ymaith, trwy gytundeb a'r Ottomaniaid, oedd yn meddiannu Groeg ar y pryd. Yn 1816, gwerthwyd hwy i'r Amgueddfa Brydeinig, lle maent hyd heddiw, er gwaethaf ymdrechion llywodraeth Groeg i'w cael yn ôl.