Douglas (Ynys Manaw)
| Math | dinas, dosbarth ar Ynys Manaw |
|---|---|
| Poblogaeth | 26,677 |
| Sefydlwyd | |
| Pennaeth llywodraeth | Natalie Anne Byron-Teare |
| Cylchfa amser | UTC+00:00 |
| Gefeilldref/i | Baile Monaidh |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg, Manaweg |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Middle |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 10.1 km² |
| Uwch y môr | 31 metr |
| Cyfesurynnau | 54.15°N 4.4775°W |
| Cod OS | SC379750 |
| Cod post | IM1 / IM2 |
| Pennaeth y Llywodraeth | Natalie Anne Byron-Teare |
![]() | |
Douglas (Manaweg: Doolish) yw prifddinas Ynys Manaw a'i dref fwyaf gyda phoblogaeth o 27,938 (2011), traean o boblogaeth yr ynys.[1] Douglas yw prif ganolfan yr ynys am fasnach, cludiant, siopa ac adloniant. Yno hefyd y lleolir llywodraeth Ynys Manaw a'r rhan fwyaf o sesiynau'r Tynwald.
Lleolir Douglas ar ochr ddwyreiniol yr ynys ger aber Afon Dhoo ac Afon Glass, gan roi iddi ei henw. Mae'r afonydd unedig yn llifo i Fae Douglas ar ôl llifo trwy'r dref. Gorwedd bryniau isel i'r gogledd-orllewin a'r de-ddwyrain gyda dyffryn rhyngddynt.
Amgylchynir y dref gan sawl tref a phentref llai, yn enwedig Onchan i'r gogledd (sydd fel estyniad o Douglas erbyn heddiw) ac Union Mills i'r gorllewin.
Mae Douglas yn enwog fel canolfan rasys beic modur y TT.
Cysylltir Douglas gan wasanaethau fferi â Lerpwl a Dulyn. Ar un adeg bu gwasanaeth fferi tymhorol yn rhedeg rhwng Douglas a Llandudno, gogledd Cymru, ond ers rhai blynyddoedd mae wedi darfod fel gwasanaeth rheolaidd.
Adeiladau a chofadeiladau
[golygu | golygu cod]- Amgueddfa Ynys Manaw
- Camera obscura
- Theatr Gaiety
- Villa Marina
Enwogion
[golygu | golygu cod]- Robin Gibb (g. 1949) a Maurice Gibb (1949-2003), cerddorion
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Isle of Man Census Report 2011 Archifwyd 2013-11-05 yn y Peiriant Wayback. Adalwyd 21 Ionawr 2013.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Cyngor Bwrdeistref Douglas Archifwyd 2006-12-05 yn y Peiriant Wayback
