Transnistria
Transnistria Trans-Dniester | |
Math | gwladwriaeth a gydnabyddir gan rai gwledydd, gwlad dirgaeedig, gwladwriaeth unedol, gwladwriaeth gyfreithiol, gwladwriaeth y werin, gwladwriaeth seciwlar |
---|---|
Enwyd ar ôl | Gweriniaeth Sosialaidd Sofietaidd Pridnestrofia Moldafaidd, Gweriniaeth Sosialaidd Ymreolaethol Sofietaidd Moldafaidd |
Prifddinas | Tiraspol |
Poblogaeth | 469,000 |
Sefydlwyd | 25 Awst 1991 oddi wrth Rwsia. |
Anthem | Anthem Transnistria |
Pennaeth llywodraeth | Alexander Rosenberg |
Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00, EET, Europe/Chisinau |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Rwmaneg, Rwseg, Wcreineg |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Moldofa |
Arwynebedd | 4,163 km² |
Uwch y môr | 140 metr |
Yn ffinio gyda | Moldofa, Wcráin |
Cyfesurynnau | 46.8422°N 29.6244°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Senedd Transnistria |
Pennaeth y wladwriaeth | Vadim Krasnoselsky |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Transnistria |
Pennaeth y Llywodraeth | Alexander Rosenberg |
Arian | Transnistrian ruble |
Gweriniaeth sydd wedi torri'n rhydd ond sy'n gorwedd o fewn ffiniau cydnabyddedig Moldofa yn nwyrain Ewrop yw Transnistria, a adnabyddir hefyd fel Trans-Dniester, Transdniestria a Pridnestrovie (enw llawn: Y Weriniaeth Pridnestrofaidd Moldofaidd). Er nad yw'n cael ei chydnabod yn rhyngwladol gan unrhyw wlad na gwladwriaeth arall ac yn rhan de jure o Foldofa, yn de facto mae hi'n wlad annibynnol sy'n gweithredu fel gwladwriaeth. Mae'n weriniaeth arlywyddol, gyda llywodraeth, senedd, byddin, heddlu a chyfundrefn post. Mae'r awdurdodau wedi mabwysiadu cyfansoddiad, baner, anthem genedlaethol, ac arfbais swyddogol. Tiraspol yw prifddinas y wlad. Yr arlywydd presennol yw Igor Smirnov.
Yn y Cyfrifiad diweddaraf roedd ei phoblogaeth tua'r un faint a Chaerdydd, sef 469,000 (2018).
Gorwedd Transnistria mewn llain hirgul o dir rhwng Afon Dniester a Wcrain. Pan dorrodd yr Undeb Sofietaidd i fyny, cyhoeddodd Transnistria ei hannibyniaeth. Arweiniodd hyn at ryfel yn erbyn Moldofa a ddechreuodd ym mis Mawrth 1992 ac a ddaeth i ben gyda chadoediad yn 1992. Fel rhan o'r cytundeb, mae comisiwn tair rhan (Rwsia, Moldofa, Transnistria) yn arolygu trefniadau diogelwch yn yr ardal dadfilwrol, ar ddwy lan afon Dniester. Mae'r cadoediad yn dal mewn grym, ond erys statws gwleidyddol Transnistria heb ei datrys.
Mae sefyllfa Transnistria yn cael ei chymharu weithiau â'r sefyllfa mewn ardaloedd eraill lle mae anghydfod yn sgîl datgymalu'r USSR wedi'i "rhewi" fel petai, e.e. yn Nagorno-Karabakh, Abkhazia a De Ossetia.
Mae mwyafrif helaeth y boblogaeth yn Rwsiaid ethnig, gyda lleiafrifoedd bychain o Iddewon, Wcreiniaid, a Moldofiaid. Ceir tair iaith swyddogol: Rwseg, Wcreineg a Moldofeg.
Cafwyd sawl enghraifft o wrth-Semitiaeth yn y wlad yn ddiweddar. Mae'r awdurdodau wedi cael eu cyhuddo gan yr Undeb Ewropeaidd ac eraill o anwybyddu masnach ryngwladol anghyfreithlon mewn arfau trwy'r wlad, ymysg pethau eraill.