Warsaw

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Warszawa
POL Warszawa COA.svg
Warsaw-Castle-Square-2.jpg
Lleoliad
Gwlad Baner Gwlad Pwyl Gwlad Pwyl
Llywodraeth
Awdurdod Rhanbarthol Dinas
Daearyddiaeth
Demograffeg
Poblogaeth Cyfrifiad 1,700,536 (Cyfrifiad 2006)
Gwybodaeth Bellach
Cylchfa Amser UTC+1
Gwefan http://www.um.warszawa.pl/

Warsaw neu Warszawa (Pwyleg: Warszawa) yw prifddinas Gwlad Pwyl. Saif ar lan ddwyreiniol Afon Vistula, tua 370 km o arfordir y Môr Baltig a mynyddoedd y Carpatiau fel ei gilydd. Amcangyfrifir bod ganddi boblogaeth o tua 1,700,536 (2006).

Hanes[golygu]

Erbyn dechrau'r Oesoedd Canol roedd casgliad o drigfeydd ar lan Afon Vistula wedi tyfu'n dref ac yna'n ddinas erbyn y 15fed ganrif. Cyhoeddwyd Warsaw yn brifddinas y wlad yn 1611. Dioddefodd gyfnod dilewyrch ar ôl hynny ond erbyn y 18fed ganrif roedd yn ddinas lewyrchus eto.

Cafodd ei meddianu gan Rwsia yn 1794 ac yn ddiweddarach gan Ffrainc dan Napoleon, a Prwsia yn ogystal. Chwareodd ran bwysig yn yr ymgyrch dros annibyniaeth i Wlad Pwyl yn y 19eg ganrif. Ar ôl cael ei meddianu gan yr Almaenwyr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf daeth yn brifddinas y wlad unwaith yn rhagor yn 1918 pan enillodd y wlad ei hannibyniaeth.

Dioddefodd y ddinas yn enbyd yn yr Ail Ryfel Byd pan y meddianwyd gan y Natsïaid. Un o agweddau gwaethaf y rhyfel yn Warsaw oedd creu'r ghetto i'r Iddewon gan y Natsïaid (1940). Gorfodwyd 400,000 o Iddewon i fynd i fyw yn Ghetto Warsaw. Dim ond tua 100,000 oedd wedi goroesi erbyn Chwefror 1943. Bu gwrthryfel ganddynt ar y strydoedd ond fe'u gorchfygwyd gan y Natsïaid a chafodd y goroeswyr i gyd eu rhoi i farwolaeth.

Ar ddiwedd y rhyfel roedd y ddinas wedi'i dinistiro'n llwyr bron. Aethpwyd ati yn y 1950au i atgyfodi'r hen ddinas ac ailgreu rhai o'r adeiladau hanesyddol a gollwyd. Mae'r ddinas wedi tyfu'n sylweddol ers hynny ac erbyn heddiw mae Warsaw yn ddinas fywiog ac yn ganolfan ddiwylliannol, masnachol a chyfathrebol y wlad.

Adeiladau a chofadeiladau[golygu]

  • Colofn Zygmunt
  • Eglwys gadeiriol Sant Ioan
  • Królikarnia
  • Palas Czapski
  • Palas Diwylliant
  • Palas Krasiński
  • Palas Wilanów
  • Theatr Mawr

Enwogion[golygu]

Dolenni allanol[golygu]

Cyffredinol[golygu]

Palas Branicki

Orielau[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: