Kraków

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Sawl golygfa o'r ddinas

Ail ddinas fwyaf Gwlad Pwyl ac un o'i dinasoedd hynaf yw Kraków neu yn Gymraeg Cracof.[1] Fe'i lleolir ger yr Afon Wisła ac mae'n dyddio o'r 7c. Yn draddodiadol, mae Kraków wedi bod yn un o ganolfannau bywyd diwylliannol, academaidd a chelfyddydol blaenaf Gwlad Pwyl ynghyd â bod yn ganolbwynt economaidd. Bu prifddinas Gwlad Pwyl rhwng 1038 a 1569; y Gymanwlad Bwylaidd-Lithwanaidd rhwng 1569 a 1596; Dinas Rydd Kraków rhwng 1815 a 1846; Archddugiaeth Cracow rhwng 1846 a 1918; a Foifodiaeth Kraków rhwng y 14g hyd at 1990. Bellach, mae'n brifddinas Foifodiaeth Pwyl Fechan.

Mae'r ddinas wedi tyfu o fod yn anheddfa Oes y Cerrig i fod yn ail ddinas bwysicaf Gwlad Pwyl. Dechreuoedd fel pentrefan ar ben Bryn Wawel a cheir adroddiadau yr oedd yn ganolfan fasnachu bwysig Ewrop Slafonig erbyn 965. Sefydlwyd prifysgolion newydd a sefydliadau diwylliannol yn sgil dyfodiad yr Ail Weriniaeth Bwylaidd yn 1918 a thrwy gydol yr 20g gan gadarnhau lle Kraków fel canolbwynt bywyd gwâr o bwysigrwydd gwladol. Erbyn heddiw, mae gan y ddinas boblogaeth o 760, 000 ac mae rhyw 8 miliwn o bobl yn byw o fewn radiws o 100 km i'r sgwâr canolog.

Wedi Goresgyniad Gwlad Pwyl ar gychwyn yr Ail Ryfel Byd, daeth Kraków yn brifddinas y Llywodraeth Gyffredinol Almaenig. Ysytriedid y Pwyliaid a'r Iddewon yn is-ddynol ac yn is-raddol gan y gorchfygwyr a chaent eu herlid; bwriadwyd eu difa yn y pen draw. Symudwyd y boblogaeth Iddewig i ardal amgaerog o'r ddinas a elwid yn Ghetto Kraków, ac ohoni y danfonasant hwy i wersylloedd crynhoi a gwesylloedd difa megis Auschwitz, a saif ar gyfyl Kraków.

Yn 1978 fe etholwyd Karol Wojtyła, Archesgob Kraków, i'r Babaeth fel Pab Ioan Pawl II— y Pab Slafaidd cyntaf erioed a'r tro cyntaf i Bab o wlad arall heblaw am yr Eidal cael ei ethol am 455 blynedd. Yr un flwyddyn, cymeradwyodd UNESCO y Safleoedd Trefdadaeth y Byd cyntaf, gan gynnwys yn eu mysg Hen Dref Kraków yn ei chyfanrwydd. Ystyrir Kraków heddiw yn ddinas o arwyddocâd rhyngwladol ac yn un o ddinasoedd harddaf Ewrop.

Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]