Poznań

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Mae Poznań (Almaeneg: Posen, Lladin: Posnania, Iddew-Almaeneg: פּויזן Pojzn) yn ddinas yng ngorllewin Gwlad Pwyl, a leolir yn is-ranbarth Pojezierzu Wielkopolskim, ar Afon Warta, lle mae Afon Cybina yn aberu. Yn brifddinas draddodiadol Wielkopolska (Gwlad Pwyl Fwyaf) ers 1999, mae'n brifddinas rhanbarth Wielkopolska. Mae'r ddinas yn gyffordd ffyrdd a rheilffyrdd bwysig, yn ogystal ag yn leoliad maes awyr rhyngwladol.

Hi yw'r bumed ddinas fwyaf poblog yng Ngwlad Pwyl (550,700 o drigolion) a'r seithfed o ran arwynebedd (262 km²). Mae Poznan yn gysylltiedig yn economaidd ac yn ddaearyddol gyda'r bwrdeistrefi cyfagos. Mae gan ardal fetropolitan Poznań dros 1 miliwn o bobl yn byw ynddi.

Mae'r ddinas yn ganolfan diwydiant, masnach, logisteg a thwristiaeth. Yma ceir Ffair Ryngwladol Poznań - y ganolfan arddangos fwyaf a hynaf yng Ngwlad Pwyl. Mae Poznań yn ganolfan academaidd, gwyddonol a diwylliannol. Mae 28 o sefydliadau addysg uwch yno, gyda 128,900 yn eu mynychu. O ran diwylliant, ceir cwmni opera, cerddorfa ffilharmonig, bale, theatrau, sinemâu, amgueddfeydd, orielau celf, cerddorfeydd ac ensembles gwerin.

Roedd Poznań yn un o ganolfannau cyfalafol a chrefyddol y wladwriaeth Piast yn y ddegfed a'r 11g; yn y gorffennol hi oedd canolfan brenhinoedd Gwlad Pwyl. Cafodd Poznan siarter trefol ym 1253. Roedd gan y dref rhan weithredol wrth ddewis y brenin. Yn eglwys gadeiriol Poznań y mae arweinwyr cyntaf gwlad Pwyl wedi eu claddu - Mieszko'r Cyntaf a Bolesław Ddewr. Ar Ynys yr Eglwys Gadeiriol hefyd mae pencadlys gweinyddol (Curia) Archesgobaeth Poznan. Yn ogystal â phrifddinas Wielkopolska, roedd yn un o ddinasoedd brenhinol Teyrnas Gwlad Pwyl. Yn 2008 dderbyniodd nifer o gymdogaethau hynaf y ddinas statws heneb hanesyddol.

Nawddsaint dinas Poznan yw: Sant Pedr a Sant Paul, a dethlir gŵyl y ddinas ar 29 Mehefin [1] .

Lleoliad[golygu | golygu cod y dudalen]

Panorama o'r Ddinas
Yr Hen Dref gyda aderyn

Lleolir Poznan yng nghanol-orllewin Gwlad Pwyl, yn y rhan ganolog o dalaith Wielkopolska. O safbwynt daearyddiaeth ffisegol, lleolir y ddinas mewn rhannau o dri ardal: y rhan orllewinol yn Ardal Llynnoedd Poznan, y dwyrain ar Wastatir Wrzesinska, a lleolir rhan hynaf y ddinas yng Ngheunant Warta Poznań. Mae'r tair ardal yn rhan o ranbarth ddaearyddol ehangach Ardal Llynnoedd Wielkopolskie.

Lleolir Poznan yn nyffryn Afon Warta ac yn nyffrynnoedd ei llednentydd: Bogdanka Cybina a Głowna.

Ers 1 Ionawr 2012, arwynebedd y ddinas yw 261.91 km². O ran ei ffiniau gweinyddol, mae Poznan yn mesur oddeutu 23 km o'r gogledd i'r de, ac oddeutu 24 km o'r dwyrain i'r gorllewin.

Ceir cytref o amgylch Poznan. Mae 11 bwrdeistref yn ffinio a Poznań, gan gynnwys y ddwy ddinas - Luboń a Swarzędz.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]