Wrocław

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Canol Wrocław, gyda'r Magdalenenkirche
Breslau

Dinas yng ngorllewin Gwlad Pwyl yw Wrocław (Almaeneg: Breslau). Hi yw prifddinas rhanbarth Silesia Isaf, a dinas bwysicaf tiriogaeth Silesia. Saif ar afon Oder. Hi yw pedwaredd dinas Gwlad Pwyl o ran poblogaeth, gyda phoblogaeth o 638,401 yn 2003.

Efallai i'r ddinas gael ei henw oddi wrth Vratislav I, brenin Bohemia (915-921). Vratislavia yw'r ffurf Ladin ar enw'r ddinas. Yn ddiweddarach, daeth dan reolaeth brenin Gwlad Pwyl. Daeth yn aelod o'r Cynghrair Hanseataidd pan ddaeth yn rhan o Bohemia gyda gweddill Silesia yn 1335. Sefydlwyd prifysgol yma yn 1526. Wedi'r Rhyfel Silesaidd Cyntaf, daeth yn rhan o deyrnas Prwsia, ac o 1871 ymlaen yn rhan o Ymerodraeth yr Almaen. Yn 1939, Breslau oedd trydedd dinas yr Almaen, gyda phoblogaeth dros 650,000. Yn 1945, wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd, daeth yn eiddo Gwlad Pwyl fel Wrocław. Gorfodwyd llawer o'r trigolion Almaenig i adael y ddinas a symud tua'r gorllewin, i'r tiriogaethau oedd yn parhau yn rhan o'r Almaen.

Dynodwyd yr Jahrhunderthalle ("Neuadd y Canmlwyddiant") yn Safle Treftadaeth y Byd gan Unesco yn 2006.

Adeiladau a chofadeiladau[golygu]

  • Kościół Św. Elżbiety (Eglwys Sant Elisabeth)
  • Ostrów Tumski (ynys, gyda'r eglwys gadeiriol)
  • Panorama Racławicka
  • Palas Wrocław

Pobl enwog o Wrocław / Breslau[golygu]