Sant Pedr

Oddi ar Wicipedia
Sant Pedr
Darlun o Bedr yn Llyfr Oriau Llanbeblig
Ganwyd1 CC Edit this on Wikidata
Bethsaida Edit this on Wikidata
Bu farwc. 65 Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
Man preswylJeriwsalem, Antiochia, Rhufain, Capernaum Edit this on Wikidata
Galwedigaethhenuriad, pysgotwr, esgob Catholig Edit this on Wikidata
Blodeuodd1 g Edit this on Wikidata
Swyddpab, Apostol, Patriarch Antiochia Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl29 Mehefin Edit this on Wikidata
Perthnasaumam yng nghyfraith Sant Pedr Edit this on Wikidata

Un o'r deuddeg Apostol oedd Sant Pedr, hefyd Simon Pedr, Simon fab Jonah, Cephas a Keipha, enw gwreiddiol Shimon neu Simeon. Ceir ei hanes yn y Testament Newydd. Roedd yn frodor o Galilea ac yn bysgotwr ar Fôr Galilea pan alwyd ef a'i frawd Andreas gan Iesu fel un o'i ddeuddeg disgybl. Yn ôl nifer o awduron yr Eglwys Fore, er enghraifft Sant Irenaeus, ef oedd arweinydd y disgyblion. Yn ddiweddarach, dywedir iddo ddod yn Esgob Rhufain.

Ei ddydd gŵyl yw 29 Mehefin. Yn yr Annuario Pontificio rhoir 64 neu 67 fel blwyddyn ei farwolaeth yn Rhufain. Yn ôl traddodiad, cafodd ei groeshoelio a'i ben i lawr. Mae traddodiad iddo ffoi o Rufain i osgoi cael ei ddienyddio, ond iddo gael gweledigaeth o Iesu ar y ffordd. Gofynnodd Pedr iddo "Quo Vadis" ("I ble rwyt ti'n mynd?"), ac atebodd Iesu "I Rufain, i gael fy nghroeshoelio eto, yn dy le di". Trodd Pedr a dychwelyd i Rufain.

Ystyrir Pedr fel y Pab cyntaf gan yr Eglwys Gatholig, ac mae traddodiad ei fod wedi ei gladdu oddi tan Basilica Sant Pedr yn Rhufain. Yn ôl y traddodiad cafodd yr Eglwys ei sefydlu gan yr Iesu ei hun, pan newidiodd ef enw Simon i Pedr, a dywedodd mai ar y graig hon y byddai'n sefydlu ei Eglwys. Yn y Groeg, mae hyn yn chwarae ar eiriau: Πέτρος (Petros; "Pedr") a πέτρα (petra: "craig" neu "carreg"). Yn yr iaith Aramaeg, kepha fyddai'r gair am y ddau.

Mae pob pab yn gwisgo modrwy gyda delwedd o bysgotwr yn taflu ei rwyd, tra mae'r allwedd sy'n symbol o awdurdod y pab yn cyfeirio at "allweddi Teyrnas Nefoedd" a addawyd i Pedr gan yr Iesu (Mathew 16:18–19).

Priodolir dau lyfr yn y Testament Newydd iddo, Llythyr Cyntaf Pedr ac Ail Lythyr Pedr, er bod amheuaeth wedi bod ynglŷn ag awduraeth Ail Lythyr Pedr o gyfnod cynnar. Awgrymwyd bod Groeg y ddau lyfr yn rhy dda i fod yn waith pysgotwr o Galilea oedd wedi dysgu Groeg fel ail neu drydedd iaith, ond dywed yr awdur ei hun ei fod yn defnyddio ysgrifennydd.

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: