Môr Galilea
| Math | monomictic lake |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Tiberias |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Jordan Rift Valley |
| Sir | Tiberias |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 168 km² |
| Uwch y môr | −212.655 metr |
| Cyfesurynnau | 32.818906°N 35.590033°E |
| Dalgylch | 273 cilometr sgwâr |
| Hyd | 21 cilometr |
| Arllwysiad | 15.8 metr ciwbic yr eiliad |
![]() | |
Llyn yn Ngalilea, yng ngogledd Israel yw Môr Galilea, hefyd Môr Tiberias, Llyn Tiberias a Llyn Genasaret (Hebraeg: כִּנֶּרֶת , «Kinéret). Hawlir rhan o'r tir ar y lan ogledd-ddwyreiniol gan Syria.
Môr Galilea yw llyn mwyaf Israel. Mae'n 21 km o hyd a 13 o led, gyda dyfnder o 48 medr yn y rhan ddyfnaf ac arwynebedd o 166 km². Saif wyneb y llyn 212 medr islaw lefel y môr. Llifa Afon Iorddonen i mewn iddo yn y pen gogleddol, ac allan ohono yn y pen deheuol. Y trefi pwysicaf ar ei lan yw Tiberías ac Ein Gev.
Mae gan Fôr Galilea le pwysig yn hanes Cristnogaeth, oherwydd i lawer o'r digwyddiadau yng ngweinidogaeth Iesu o Nasareth ddigwydd ar ei lannau. Roedd nifer o'i ddisgyblion, Pedr, Andreas, Iago ac Ioan, yn bysgotwyr ar y llyn. Oherwydd y cysylltiadau hyn, roedd Môr Galilea eisoes yn gyrchfan boblogaidd i bererinion yng nghyfnod yr Ymerodraeth Fysantaidd, ac mae wedi parhau felly hyd heddiw.
