Iago fab Sebedeus
Gwedd
| Iago fab Sebedeus | |
|---|---|
| Ganwyd | 1 g Bethsaida |
| Bu farw | 44 Jerwsalem |
| Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
| Galwedigaeth | pysgotwr, cenhadwr |
| Swydd | apostol |
| Dydd gŵyl | 25 Gorffennaf, 30 Ebrill, 30 Rhagfyr |
| Tad | Sebedeus |
| Mam | Salome |
| Priod | Unknown |
- Am bobl a chymeriadau eraill sy'n dwyn yr enw Iago, gweler Iago (gwahaniaethu)
Un o'r deuddeg Apostol oedd Iago fab Sebedeus neu Sant Iago (bu farw 44). Roedd yn fab i Sebedeus a Salome, ac yn frawd i Ioan. Dywedir ei fod ef a'r frawd yn bysgotwyr ar lan Môr Galilea pan alwyd hwy gan Iesu fel disgyblion.

Yn diweddarach, cofnodir yn Actau'r Apostolion i Herod Agrippa ddienyddio Iago a chleddyf. Yn ôl y traddodiad, aethpwyd a'i weddillion i'w claddu i Santiago de Compostela yn Galicia yng ngogledd-orllewin Sbaen. Daeth Iago yn nawdd-sant Sbaen, ac ystyrir Santiago de Compostela gan Gatholigion fel trydedd dinas sanctaidd, ar ôl Jeriwsalem a Rhufain. Mae'r ddinas wedi bod yn gyrchfan boblogaidd i bererinion o'r Canol Oesoedd ymlaen.