Rembrandt

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Rembrandt
Rembrant Self-Portrait, 1660.jpg
Ynganiad Rembrandtvanrijn.ogg Edit this on Wikidata
Ganwyd Rembrandt Harmenszoon van Rijn Edit this on Wikidata
15 Gorffennaf 1606 Edit this on Wikidata
Leiden Edit this on Wikidata
Bu farw 4 Hydref 1669, 1669 Edit this on Wikidata (63 oed)
Amsterdam Edit this on Wikidata
Man preswyl Rembrandt House Museum Edit this on Wikidata
Galwedigaeth arlunydd, drafftsmon, gwneuthurwr printiau Edit this on Wikidata
Gwaith nodedig Yr Wylfa Nos, Syndics of the Drapers' Guild, Y Briodferch Iddewig Edit this on Wikidata
Arddull paentio Edit this on Wikidata
Mam Neeltje Willemsdr. Zuytbrouck Edit this on Wikidata
Priod Saskia van Uylenburgh Edit this on Wikidata
Partner Geertje Dircx, Hendrickje Stoffels Edit this on Wikidata
Plant Titus van Rijn, Cornelia van Rijn Edit this on Wikidata
Llofnod
Rembrandt autograph.png

Arlunydd o'r Iseldiroedd oedd Rembrandt Harmenszoon van Rijn (15 Gorffennaf 16064 Hydref 1669). Mae'n cael ei gyfri fel un o arlunwyr ac ysgythrwr mwyaf Ewrop ac yn sicr y gorau yn hanes celf yr Iseldiroedd.[1] Cyfrannodd yn helaeth mewn cyfnod o gyfoeth a bwrlwm celfyddydol a elwir yn Oes Aur yr Iseldiroedd a oedd yn ddull cwbwl groes i'r traddodiad Baróc a oedd yn parhau drwy weddill Ewrop.

Bywyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Fe'i ganwyd yn Leiden. Fel arlunydd ifanc cafodd gryn lwyddiant yn paentio lluniau o bobl. Cafodd hefyd fywyd llawn trasiedi a chaledi ariannol, eto roedd ffrwyth ei lafur yn hynod boblogaidd drwy gydol ei oes a chanmolwyd ef gan y beirniaid a'r bobl gyffredin.[2] Am ugain mlynedd dysgodd eraill sut i beintio, gyda nifer o'i ddisgyblion yn arlunwyr enwog o'r Iseldiroedd.[3] Efallai mai lluniau o'i gyfoeswyr yw'r lluniau gorau a wnaeth, a golygfeydd o'r Beibl. Mae ei hunanbortreadau'n dweud llawer amdano ac yn ddarluniau gonest, di-duedd.[1]

Mae ei luniau (olew ac ysgythriadau) yn brawf o'i wybodaeth am eiconnau clasurol, a addasodd i'w bwrpas ei hun; er enghraifft, mae ei olygfeydd beiblaidd yn dangos ei fod wedi'i drwytho yn y testun ei hun yn drwyadl ac yn aml yn adlewyrchu ei ymchwil i bryd a gwedd Iddewon Amsterdam.[4] Mae'r portradau hyn yn dangos ei empathi tuag at y ddynol ryw ac oherwydd hyn caiff ei alw'n aml yn "un o Broffwydi mwyaf gwareiddiad".[5]

Priododd Rembrandt ei wraig, Saskia van Uylenburgh, ym 1634. Bu farw Saskia ym 1642.

Oriel[golygu | golygu cod y dudalen]

Hunan portreadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwaith arall[golygu | golygu cod y dudalen]

Darluniau ac ysgythriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 Gombrich, p. 420.
  2. Gombrich, tud. 427.
  3. Clark 1969, tt. 203
  4. Clark 1969, tt. 203–204
  5. Clark 1969, tt. 205
  6. Starcky, Emmanuel (1990). Rembrandt. Hazan. p. 45. ISBN 2-85025-212-3. 
Flag of the Netherlands.svg Eginyn erthygl sydd uchod am yr Iseldiroedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato