Castell Penrhyn

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Castell Penrhyn
Penrhyn Castle.jpg
Math château, tower house Edit this on Wikidata
Sefydlwyd 1820 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Llandygái Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 53.2259°N 4.09462°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Sian Gwenllian (Plaid Cymru)
AS/au Hywel Williams (Plaid Cymru)
Arddull pensaernïol Romanesque Revival architecture Edit this on Wikidata
Perchnogaeth Edward Gordon Douglas-Pennant, George Hay Dawkins-Pennant, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Edit this on Wikidata
Statws treftadaeth adeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Gwefan www.nationaltrust.org.uk/penrhyn-castle Golygu ar Wicidata

Tŷ gwledig ydy Castell Penrhyn, sy'n sefyll mewn parcdir eang ar bwys pentref Llandegai ger Bangor, Gwynedd. Mae hi wedi ei hadeiladu ar ffurf castell Normanaidd. Yn wreiddiol, roedd yn faenordy canoloesol caerog, a sefydlwyd gan Ednyfed Fychan yn hanner cyntaf y 13g. Yn 1438, cafodd Ioan ap Gruffudd drwydded i'w droi'n amddiffynfa gaerog (trwydded crenellate) a chodwyd cadarnle a gorthwr yno. Ail-adeiladodd Samuel Wyatt yr adeilad yn y 1780au.

Adeiladwyd y castell presennol rhwng 1820 a 1845 i gynlluniau Thomas Hopper, a ymestynodd a thrawsnewidiodd yr adeiliad yn ddi-adnabyddadwy. Er hyn, mae grisiau troellog o'r adeilad gwreiddiol yn dal i'w gweld yn y seler bwaog a chynhwyswyd hen waith maen yn y strwythr newydd. Clientiaid Hopper oedd y teulu Pennant, a oedd wedi ennill eu cyfoeth drwy siwgr Jamaica a chwareli llechi lleol. Gall rhai weld hyn fel cofeb i'r dioddefaint a gafodd y rhai a weithiodd dros y Pennantiaid.

Mae Penrhyn yn un o'r ffug gestyll y 19g a edmygir fwyaf; gelwodd Christopher Hussey hi'n, "the outstanding instance of Norman revival." [1] Mae'r castell yn gyfansoddiad darluniadol sy'n ymestyn dros 600 troedfedd sgwâr sy'n cynnwys ystafelloedd teuluol, ac yn y prif floc a adeiladwyd o amgylch yr adeilad gwreiddiol mae stablau ac adain gwasanaeth.

Dyluniodd Hopper yr holl addurniadau mewnol cyntaf mewn steil cyfoethog ond cynnil Normanaidd, gyda llawr o waith plastr a cherfio pren a charreg manwl. Mae gan y castell hefyd ychydig o ddodrefn a ddylunwyd yn arbennig yn y steil Normanaidd, gan gynnwys gwely o lechi yn pwyso tunnell a ddefnyddwyd gan y Frenhines Victoria pan ymwelodd hi â'r castell yn 1859 ar un o'i hymweliadau prin â Chymru.

Yn 1951 derbynwyd y castell a 40,000 acer (160 km²) o dir gan y Trysorlys yn lle treth etifeddiaeth. Erbyn heddiw mae'n perthyn i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac mae ar agor i'r cyhoedd. Mae atyniadau Penrhyn yn cynnwys gerddi ffurfiol o fewn waliau, gerddi anffurfiol estynedig, amgueddfa ddolïau, Amgueddfa Rheilffordd Castell Penrhyn (amgueddfa rheilffordd fodel), a maes chwarae antur. Ceir golygfeydd o fynyddoedd Eryri oddi yno.

Castell Penrhyn tua 1880.

Cost[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae cost adeiladu'r 'castell' estynedig hon yn ddadleuol. Amcangyfriwyd iddo gostio tua £150,000 i'r teulu Pennant, sy'n cyfateb i tua £49,500,000 yn arian heddiw.

Ffynonellau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. English Country Houses: Late Georgian (argraffiad 1988), tudalen 181. ISBN 1-85149-032-9

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: