Edward Gordon Douglas-Pennant, Barwn 1af Penrhyn

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Edward Gordon Douglas-Pennant, Barwn 1af Penrhyn
Portrait of Edward Gordon Douglas Pennant (4674554).jpg
Ganwyd 20 Mehefin 1800 Edit this on Wikidata
Bu farw 31 Mawrth 1886 Edit this on Wikidata (85 oed)
Dinasyddiaeth Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Teyrnas Prydain Fawr Edit this on Wikidata
Galwedigaeth Gwleidydd, person busnes Edit this on Wikidata
Swydd Aelod o 19fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 18fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 17eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 16eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 15fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 14eg Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Y Blaid Geidwadol Edit this on Wikidata
Plant George Sholto Gordon Douglas-Pennant Edit this on Wikidata

Edward Gordon Douglas-Pennant, Barwn 1af Penrhyn, neu Yr Hen Lord ar lafar yn ardal Bethesda, (20 Mehefin 1800 - 31 Mawrth 1886) oedd y Barwn Penrhyn cyntaf o'r ail greadigaeth.

Ganed ef yn Edward Gordon Douglas, o deulu uchelwrol Douglas yn yr Alban. Pan fu farw Richard Pennant, Barwn 1af Penrhyn yn 1808 dilynwyd ef gan ei gefnder, George Hay Dawkins (1763-1840). Roedd Douglas yn briod a merch Dawkins, Juliana, ac enwyd ef a Juliana fel cyd-etifeddion yr ystad ar yr amod eu bod yn cymryd y cyfenw Pennant. Newidiodd ei enw i Douglas Pennant yn 1841.

Gwnaed ef yn Farwn Penrhyn yn 1866. Roedd wedi bod yn Aelod Seneddol dros Sir Gaernarfon ers chwarter canrif pan wnaed ef yn Farwn, a rhoi'r gorau i'w sedd i fynd i Dŷ'r Arglwyddi.

Bu'n gyfrifol am dŵf enfawr yn Chwarel y Penrhyn, a gwnaeth y chwarel yntau yn ŵr cyfoethog dros ben. Yn 1859 amcangyfrifodd y Mining Journal fod Chwarel y Penrhyn yn gwneud elw o £100,000 y flwyddyn.

Er iddo fod mewn anghydfod a'r chwarelwyr nifer o weithiau, yn enwedig yn 1874 yn dilyn ffurfio Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru, ystyrid ei fod ef yn barotach i wrando ar ei weithwyr nag oedd ei fab, George Sholto Gordon Douglas-Pennant, 2ail Farwn Penrhyn, a'i olynodd.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1953).
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
John Ralph Ormsby-Gore
Aelod Seneddol Sir Gaernarfon
18411866
Olynydd:
George Sholto Gordon Douglas-Pennant
Teitlau Pendefigaeth/Bonheddig
Rhagflaenydd:
Barwniaeth newydd
Barwn Penrhyn
18661886
Olynydd:
George Sholto Gordon Douglas-Pennant