John Ralph Ormsby-Gore, Barwn 1af Harlech
| John Ralph Ormsby-Gore, Barwn 1af Harlech | |
|---|---|
| Ganwyd | 3 Mehefin 1816 |
| Bu farw | 15 Mehefin 1876 |
| Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
| Galwedigaeth | gwleidydd |
| Swydd | Aelod o 21ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 20fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 19fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 18fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 13eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o Dŷ'r Arglwyddi |
| Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol |
| Tad | William Ormsby-Gore |
| Mam | Mary Jane Ormsby-Gore |
| Priod | Sarah Tyrell |
| Plant | Fanny Mary Katherine Bulkeley-Owen |
Roedd John Ralph Ormsby-Gore, Barwn 1af Harlech (3 Gorffennaf 1816 – 15 Gorffennaf 1876) yn wleidydd Ceidwadol ac yn Aelod Seneddol dros Sir Gaernarfon a Gogledd Swydd Amwythig.[1]
Bywyd Personol
[golygu | golygu cod]Ganwyd Ormsby-Gore ym 1816 yn Neuadd Brogyntyn, Swydd Amwythig yn fab i William Gore a Mary Jane Ormsby. Roedd Mary Jane Ormsby yn etifedd ystadau Glyn Cywarch, Clenennau a Brogyntyn, wrth ei phriodi hi newidiodd William Gore enw'r teulu i Ormsby-Gore. Fe fu William Ormsby-Gore yn AS Bwrdeistrefi Caernarfon a Gogledd Swydd Amwythig.
Cafodd ei addysgu yn Eton a Choleg Eglwys Crist, Rhydychen[2] Priododd Sarah merch ieuengaf Syr John Tysson Tyrell ym 1844;[3] bu iddynt un ferch Fanny Mary Katherine.[4]
Gyrfa gyhoeddus
[golygu | golygu cod]Dechreuodd Ormsby-Gore ar ei yrfa gyhoeddus ym 1837 yn 21 oed pan gafodd ei ethol yn ddiwrthwynebiad fel Aelod Seneddol Ceidwadol Sir Gaernarfon. Ym 1841 ildiodd y sedd i Edward Douglas-Pennant.
Ym 1844 fe'i penodwyd yn Ystafellwas i'r Frenhines Victoria gan barhau yn y swydd honno hyd 1859.
Ym 1859 fe'i etholwyd yn Aelod Seneddol Ceidwadol dros Ogledd Swydd Amwythig gan ddal y sedd hyd ei ddyrchafu i'r bendefigaeth ym 1876.
Gwasanaethodd fel dirprwy Arglwydd Raglaw Swydd Amwythig ac fel Ynad Heddwch yn Swydd Amwythig a Sir Gaernarfon.
Fe'i crëwyd yn Barwn Harlech o Harlech[5] yn Sir Feirionnydd ar gais y prif weinidog Benjamin Disraeli. Gan nad oedd ganddo etifedd gwrywaidd rhoddwyd y Barwniaeth iddo gyda hawl gweddilliad statudol yn enwi ei frawd William yn etifedd tybiedig.
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Llai na chwe mis ar ôl ei godi i'r bendefigaeth bu farw'r Arglwydd Harlech yn Nhŷ ei dad yng nghyfraith Boreham House, ger Chelmsford, Essex, lle y bu'n ceisio cyfnod o ymadferiad [6] wedi dioddef cyfres o boenau yn ei frest. Cafodd ei weddillion eu claddu yng nghladdgell y teulu yn Eglwys Selattyn, ger Croesoswallt.[7]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Darlun o Ormsby Gore yn y Casgliad Frenhinol:
http://www.royalcollection.org.uk/collection/2906769/mr-john-ralph-ormsby-gore-1816-76
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Cracroft's Peerage [1] Archifwyd 2019-07-25 yn y Peiriant Wayback adalwyd 9 Chwefror 2015
- ↑ Wrexham Advertiser 17 Gorffennaf 1876 t 5 erthygl "The Death of Lord Harlech"
- ↑ Cambrian - 15 Mehefin 1844 Hysbysiadau Teulu [2] adalwyd 9 Chwefror 2015
- ↑ Y Bywgraffiadur Arlein BULKELEY-OWEN , FANNY MARY KATHERINE ( 1845 - 1927 ), awdures [3] adalwyd 9 Chwefror 2015
- ↑ Llais Y Wlad — 28 Ebrill 1876 t 5 erthygl Beddgelert: Dyrchafiad Arglwydd Harlech [4] adalwyd 9 Chwefror 2015
- ↑ Y Dydd - 23 Mehefin 1876 t1 erthygl Newyddion[5] adalwyd 9 Chwefror 2015
- ↑ Y Dydd - 30 Mehefin 1876 erthygl Newyddion Cymreig [6] adalwyd 9 Chwefror 2015
| Senedd y Deyrnas Unedig | ||
|---|---|---|
| Rhagflaenydd: Thomas Assheton Smith |
Sir Gaernarfon 1837 – 1841 |
Olynydd: Edward Gordon Douglas-Pennant |
| Senedd y Deyrnas Unedig | ||
| Rhagflaenydd: John Whitehall Dod Rowland Clegg-Hill |
Aelod Seneddol Gogledd Swydd Amwythig 1859 – 1876 |
Olynydd: George Bridgeman Stanley Leighton |
| Teitlau Pendefigaeth/Bonheddig | ||
| Rhagflaenydd: Barwniaeth newydd |
Barwn Harlech 1876 – 1876 |
Olynydd: William Richard Ormsby-Gore |