Clenennau
| Math | plasty gwledig |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Clenennau Estate |
| Lleoliad | Dolbenmaen |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 136 metr |
| Cyfesurynnau | 52.9593°N 4.18686°W |
![]() | |
| Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II*, Henebion Cenedlaethol Cymru |
| Manylion | |
Plasdy hynafol yn Eifionydd, Gwynedd yw'r Clenennau. Daeth yn ganolfan Ystâd Clenennau a chwareuodd ran bwysig yn hanes y rhan honno o Ogledd Cymru. Heddiw mae'n ffermdy.
Lleoliad
[golygu | golygu cod]Saif Clenennau yn ardal Penmorfa tua 5 milltir i'r gogledd-orllewin o Borthmadog yn rhan isaf Cwm Ystradllyn, Eryri, tua hanner milltir i'r dwyrain o bentref Golan.
Hanes
[golygu | golygu cod]Roedd teulu'r Clenennau yn un o bedwar teulu grymus yn Eifionydd - gyda teuluoedd plasdai cyfagos Y Gesail Gyfarch, Ystumcegid a Bryncir - a hawliai eu bod yn ddisgynyddion uniongyrchol i'r brenin Owain Gwynedd. Yn yr 16g, unwyd ystadau Clenennau a Brogyntyn (ger Croesoswallt) pan briododd Syr William Maurice, aer Clenennau, ag aeres Brogyntyn.
Un o breswylwyr enwocaf Clenennau oedd Syr John Owen (1600-1666), a gododd wrthryfel yng Ngogledd Cymru o blaid y brenin Charles I yn erbyn llywodraeth Oliver Cromwell yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- William Rowland, Gwŷr Eifionydd (Gwasg Gee, 1953)
- Syr John Wynn o Wydir, History of the Gwydir Family, gol. J. Gwynfor Jones (Gwasg Gomer, 1990)
