Gwasg Gomer
Math | gwasg |
---|---|
Sefydlwyd | 1892 |
Sefydlydd | John David Lewis |
Pencadlys | Llandysul |
Perchnogion | Teulu Lewis, Gwasg Gomer |
Rhiant-gwmni | y fasnach lyfrau yng Nghymru |
Gwasg Gomer yw un o'r cyhoeddwyr llyfrau Cymraeg mwyaf yng Nghymru. Fe'i sefydlwyd ym 1908 gan yr argraffydd a chyhoeddwr John David Lewis (1859 - 1914), ar sail busnes argraffu a ddechreuwyd ganddo ym 1892 yn Llandysul, Ceredigion; mae'r wasg yn dal i gael ei rhedeg yn y pentref heddiw. Fe'i henwir ar ôl yr awdur Joseph Harris (Gomer) (1773-1825).
Ehangodd y wasg trwy brynu Gwasg Aberystwyth ym 1945. Dros y blynyddoedd mae enw Gwasg Gomer wedi bod yn gysylltiedig â rhai o awduron mwyaf llenyddiaeth Gymraeg yr ugeinfed ganrif, yn cynnwys D. J. Williams, T. Llew Jones, T. H. Parry-Williams, Islwyn Ffowc Elis, T. Rowland Hughes, Siân Lewis a Waldo Williams. Un o gymeriadau mwyaf poblogaidd y wasg yw Sali Mali.
Yn Medi 2019 cyhoeddwyd y byddai cwmni Gomer yn cau eu adran gyhoeddi ond yn parhau gyda'r gwaith argraffu. Mae hyn yn nodi diwedd 127 mlynedd o gyhoeddi. Dywedodd rheolwr y cwmni, Jonathan Lewis, y byddai'r newid strategol hwn yn sicrhau dyfodol y staff o 55.[1]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Cau adran gyhoeddi Gwasg Gomer yn llwyr , Golwg360, 10 Medi 2019. Cyrchwyd ar 11 Medi 2019.