Waldo Williams

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Waldo Williams
Waldo Williams dim dyddiad gwella contrast crop.jpg
Ganwyd 30 Medi 1904 Edit this on Wikidata
Hwlffordd Edit this on Wikidata
Bu farw 20 Mai 1971 Edit this on Wikidata (66 oed)
Hwlffordd Edit this on Wikidata
Cenedl Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth bardd, athro Edit this on Wikidata
Gwaith nodedig Dail Pren Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Plaid Cymru Edit this on Wikidata
Tad J. Edwal Williams Edit this on Wikidata
Waldo Williams ar glawr llyfr Stori Waldo Williams gan Alan Llwyd (Cyhoeddiadau Barddas; 2010).

Roedd Waldo Williams yn heddychwr, yn grynwr, yn genedlaetholwr, yn sosialydd ac yn un o feirdd mwyaf Cymru'r 20g (30 Medi 190420 Mai 1971). Un o'i gerddi enwocaf yw 'Mewn Dau Gae'.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafodd ei eni yn Hwlffordd, yn fab i J Edwal Williams, athro ysgol gynradd a Chymro Cymraeg. Enw ei fam (cyn priodi) oedd Angharad Jones a Saesneg oedd ei hiaith hi. Mae'n werth nodi fod tad Waldo a'r Parch John Jenkins, gweinidog gyda'r Bedyddwyr yn Hill Park, Hwlffordd, yn heddychwyr ac yn aelodau o'r Blaid Lafur Annibynnol.

Roedd yn saith oed yn dysgu Cymraeg pan symudodd y teulu i Fynachlog-ddu yng ngogledd Sir Benfro, 1911 - 1915 lle roedd ei dad yn brifathro ar yr ysgol gynradd. Yn 1915 daeth ei dad yn brifathro ar Ysgol Brynconin, Llandisilio a daeth y teulu'n aelodau o eglwys y Bedyddwyr, Blaenconin lle roedd y Parch T J Michael yn weinidog; heddychwr arall. Mynychodd Ysgol Ramadeg Arberth cyn mynd i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth a graddio yn 1926 mewn Saesneg. Yn dilyn hyfforddiant fel athro bu'n dysgu mewn nifer o ysgolion yn Sir Benfro. Bu hefyd yn dysgu yng Ngogledd Cymru a Lloegr. Bu hefyd yn diwtor dosbarthiadau nos a drefnid gan Adran Efrydiau Allanol, Coleg y Brifysgol Aberystwyth.

Priododd Linda yn 1941, ond bu hithau farw o'r diciâu yn 1943, a wnaeth e ddim priodi eilwaith. Cyfeiriodd droeon at y blynyddoedd hyn fel 'y blynyddoedd mawr'.

Roedd yn wrthwynebydd cydwybodol yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Rhyddhawyd ef yn ddiamod yn dilyn ei ddatganiad gerbron tribiwnlys yng Nghaerfyrddin, 12 Chwefror, 1942.[1]

Angharad, mam Waldo (chwith) a'i theulu, tua 1895.

Roedd yn teimlo mor gryf yn erbyn Rhyfel Corea nes iddo wrthod talu'r dreth incwm, ac fe'i carcharwyd am hynny ddechrau'r 1960au. Roedd yn ymwybodol iawn o feirniadaeth Mohandas Gandhi ar y llenor Rabindranath Tagore pan ddywedodd wrth Tagore 'rhowch i ni weithredoedd nid geiriau.' Gofynwyd i Waldo a oedd wedi ystyried cyhoeddi ei gerddi. Dyma ei ateb i D.J. Williams "Roeddwn i'n teimlo y byddai eu cael gyda'i gilydd mewn llyfr yn ofnadwy, yn rhagrithiol ac yn annioddefol heb fy mod yn gwneud ymdrech i wneud rhywbeth heblaw canu am y peth hwn.[2][3] Dylanwadodd y bardd sosialaidd a'r athronydd Edward Carpenter arno ef a'i dad.

Cofeb Waldo yn Rhos Fach, ger Mynachlogddu.

Safodd dros Blaid Cymru yn Etholiad Cyffredinol 1959.

Fe'i claddwyd yn agos i'w wraig Linda ym mynwent capel Blaenconyn, rhwng Llandysilio a Chlunderwen, lle mae ei garreg fedd yn dwyn y geiriau 'Gwyn eu byd y tangnefeddwyr'. Mae carreg goffa i Waldo ar y comin ger Mynachlog-ddu.

Teulu[golygu | golygu cod y dudalen]

Ochr ei dad[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar ochr John "Edwal" Williams, tad Waldo, credir fod y teulu'n hannu o'r ardal rhwng y Taf a'r Cleddau, a bod un o'r hynafiaid yn Grynwr a gladdwyd yn Llanddewi Felffre.[4]

John "Edwal" Williams
tad Waldo
(1863–1934)
Angharad Jones
mam Waldo
(1876–1932)
Morfydd Monica
(1902–1915
Mary Enid
(1903–1971)
Waldo Williams
(1904–1971)
Roger
(1907–1969)
Dilys
(g. 1910)

Roedd gan Waldo, felly, un brawd a thair chwaer. Bu farw Morfydd yn 13 oed; arferai farddoni gyda Waldo yn Saesneg, yn ôl eu chwaer Dilys. Mewn cofnod o'r cyfnod gan Dilys, dywedodd i Forfydd roi cyngor i Waldo:"Your poetry won't be any good until you get rid of your adjectives."

Mab Dafi Williams oedd Edwal Williams, tad Waldo. Priododd Martha Thomas yng nghapel Blaenconin yn 1862. Disgrifiodd yr Athro David Williams, Aberystwyth Edwal fel, dyn o gymeriad cryf a dylanwadol... yn radical o'r rheng flaenaf, ac yn sosialydd...[5] Nid oedd yn grefyddwr ffurfiol, er ei fod yn aelod o'r Bedyddwyr. Cefnogai ac edmygai Keir Hardy a Walt Whitman a darllenai'n helaeth, yn enwedig gwaith Ruskin. Dylanwad arall arno oedd Thomas Evan Nicholas, neu "Niclas y Glais"(1879 - 1971). Roedd yn Gymro Cymraeg rhugl, ond Saesneg oedd iaith y cartref. Gan mai sosialaeth oedd yn dod yn gyntaf iddo, efallai y teimlai fod crefydd a'r Gymraeg yn rhwystr rhag ymledu'r syniadau radical y credai mor gryf ynddynt.

Ochr ei fam[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd Angharad yn berson dwys, afieithus, heb fawr o gariad at waith tŷ. Cymerai gryn ddiddordeb yn syniadau ei gŵr. Does dim rhyfedd iddi ymddiddori ym mhynciau'r dydd ac ym myd rhesymeg ac athroniaeth o edrych ar ei llinach. Garddwr oedd ei thad, prifarddwr ar ystadau enfawr Lloegr am lawer o'i oes, a symudodd ef a'i wraig Margaret Price droeon oherwydd ei waith. Aeth y chwech plentyn, gan gynnwys Angharad, mam Waldo, i'r coleg. Er nad oedd crefydd ffurfiol yn bwysig iawn gan y teulu, roedd y safonau canlynol yn holl bwysig: gonestrwydd, geirwiredd, ffyddlondeb, caredigrwydd a symylrwydd.

Priododd John Jones â Margaret Price, mam Waldo yn 1875, flywyddyn cyn geni Angharad.

John Jones
(1850-1912)
Margaret Price
(g. ?)
Angharad
mam Waldo
(1876–1932)
John Elias
(1878–1948
Azariah Henry
(1881–1956)
Wilhelmina
(1884–1920)
William Price
(m. 1982)
Mwynlân
(g. 1897)

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwaith Waldo[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Cofio (cyfres Y Ford Gron)
  • Brenhiniaeth a Brawdoliaeth. Darlith yng Nghapel y Tabernacl, Abergwaun - 9 Mai 1956. Cyhoeddwyd y nodiadau yn Seren Gomer Haf 1956.
  • 'Mewn Dau Gae'. Baner ac Amserau Cymru. 13 Mehefin 1956.
  • 'Paham y Gwrthodais dalu treth yr incwm'. Baner ac Amserau Cymru 20 Mehefin 1956
  • Paham yr wyf yn Grynwr. Sgwrs Radio 15 Gorffennaf 1956 a gyhoeddwyd yn ddiweddarach ar 25 Mehefin 1971 yn Seren Cymru.
  • Dail Pren (1956)
  • Cerddi'r Plant (1970). Ar y cyd ag E. Llwyd Williams.
  • 'Rhyfel a'r Wladwriaeth'. Erthygl yn Y Faner (1956).
  • 'Barddoniaeth T E Nicholas'. Y Cardi, Rhif 6 , Gŵyl Ddewi 1970.
  • Old Farm House. Cyfieithiad Saesneg o Hen Dŷ Ffarm gan D.J. Williams.

Astudiaethau[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Datganiad Waldo y Traethodydd hydref 1971.
  2. Jâms Nicholas Darlith Goffa Lewis Valentine - Cymdeithas Heddwch Undeb Bedyddwyr Cymru, 2000. Tud 12/13
  3. www.waldowilliams.com; adalwyd 20 Mai 2015
  4. Gweler cyfol goffa Gwilamus, Meillion a mêl gwyllt o faes Gwilamus (cyhoeddwyd tua 1920.
  5. [Y Traethodydd; Hydref 1971.