Idwal Jones (1895–1937)
Gwedd
Idwal Jones | |
---|---|
Ganwyd | 8 Mehefin 1895 Llanbedr Pont Steffan |
Bu farw | 1937 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd |
Llenor a digrifwr o Geredigion oedd Idwal Jones (8 Mehefin 1895 – 18 Mai 1937). Roedd yn gymeriad ffraeth a fu'n adnabyddus am ei ddramâu a'i gerddi digrif.
Brodor o Lanbedr Pont Steffan, Ceredigion oedd Idwal Jones. Cafodd yrfa amrywiol gan weithio fel clerc, ysgolfeistr a darlithydd. Gwasanaethodd yn y fyddin yn Nwyrain Affrica yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Aeth i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth ar ôl y rhyfel a chafodd radd mewn Saesneg. Ar ôl cyfnod fel ysgolfeistr ym Mhontarfynach cafodd swydd fel Darlithydd Efrydiau Allanol.
Ei waith pwysicaf efallai yw'r ddrama Pobl yr Ymylon, sy'n ddychan ar barchusrwydd a snobyddiaeth.
Ceir cofiant iddo gan D. Gwenallt Jones (1958).
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Pobl yr Ymylon (1927). Drama
- Yr Anfarwol Ifan Harris (1928). Drama. Buddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1928
- Yr Eosiaid (1936). Drama gerddorol.
- Cerddi Digri a Rhai Pethau Eraill (1934)
- Cerddi Digri Newydd a Phethau o'r Fath (1937)
- Ystorïau a Pharodïau (1944)
- My Piffle, parodi o'r gyfrol My People gan Caradoc Evans