J. Edwal Williams

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
J. Edwal Williams
Ganwyd 1863 Edit this on Wikidata
Bu farw 1934 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth Bardd Edit this on Wikidata
Plant Waldo Williams Edit this on Wikidata

Tad Waldo Williams oedd John Edwal Williams a adwaenid fel J. Edwal Williams (18631934).[1] Priododd Angharad Jones (nee Jones; 1875-1932)) ym 1875.

Bu'n fyfyriwr yng Ngholeg y Normal, Bangor o 1887 hyd 1888. Ar ôl cyfnod fel athro yn Lloegr penodwyd ef yn brifathro Ysgol y Cyngor, Pendregast, Hwlffordd. Daeth yn brifathro Ysgol Gynradd Mynachlog-ddu ar 21 Awst 1911 pan oedd Waldo ar fin cael ei ben-blwydd yn saith oed.

Waldo ifanc, gyda'i dad Edwal ei fam, Angharad a'i chwaer Dilys.

Roedd yn fardd gwlad, ac yn ogystal a'i frawd Gwilamus (ewythr Waldo) yn ysgrifennu cerddi vers libre, peth anarferol ac amhoblogaidd ar y pryd.[2]

Un o'r prif ddylanwadau ar J. Edwal Williams oedd Edward Carpenter, y bardd a'r sosialydd. Oddi wrth ei dad yr etifeddodd Waldo yr egwyddor o frawdoliaeth.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1.  WILLIAMS, WALDO GORONWY (1904–1971), bardd a heddychwr.. Llyfrgell Cenedlaethol Cymru (2017). Adalwyd ar 15 Mawrth 2018.
  2. t. 12, t. 14 Stori Waldo Williams gan Alan Llwyd Barddas