Coleg Normal, Bangor
280px | |
Math |
coleg hyfforddi athrawon, Coleg normal ![]() |
---|---|
| |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad |
Bangor ![]() |
Sir |
Gwynedd ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
53.2298°N 4.1313°W ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth |
adeilad rhestredig Gradd II ![]() |
Manylion | |
Coleg hyfforddi athrawon oedd Coleg y Normal, Bangor a newidiodd ei enw oddeutu 1979 i Y Coleg Normal. Fe'i sefydlwyd yn 1861 drwy arian a godwyd gan gymdeithasau Cymraeg a Syr Hugh Owen - cyfanswm o £11,000; derbyniwyd y swm tila o £2,000 gan Lywodraeth Prydain.
Fe'i lleolir ar lannau Afon Menai - nid nepell o Fangor. Yn 1996 fe lyncwyd y coleg annibynnol hwn gan Brifysgol Cymru, Bangor. Ceir campws arall oddeutu milltir i ffwrdd yng nghanol Bangor Uchaf, lle mae Neuadd Eryri, Neuadd Ogwen, Neuadd Ddyfrdwy a Neuadd Aethwy. John Phillips oedd y Prifathro cyntaf. Esgymunwyd y Gymraeg fel pwnc rhwng 1865 a 1907. Agorwyd y drws i fyfyrwyr benywaidd yn 1910.
Yn y 1960au cododd dros 20 o ddarlithwyr mewn protest i hawlio siec gyflog drwy gyfrwng y Cymraeg - un o ymgyrchoedd cyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.[1]
Cynfyfyrwyr[golygu | golygu cod y dudalen]
- Gerallt Lloyd Owen
- Ieuan Wyn
- Robin Llwyd ab Owain
- Gwenlyn Parry
- Ryan Davies
- Rhydderch Jones
- J. O. Roberts
- Windsor Davies
Darlithwyr adnabyddus[golygu | golygu cod y dudalen]
- Owain Owain
- Huw Lloyd Edwards
- Dafydd Orwig
- John Lasarus Williams
- Menai Williams
- Richard Cyril Hughes