Afon Menai

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Afon Menai
Menai Suspension Bridge Dec 09.JPG
Math Culfor Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 53.1806°N 4.2333°W Edit this on Wikidata
Llednentydd Afon Adda, Afon Seiont, Afon Braint, Afon Gwyrfai Edit this on Wikidata

Sianel dŵr hallt neu gulfor yng ngogledd-orllewin Cymru rhwng Ynys Môn ac Arfon (Gwynedd) ar y tir mawr yw Afon Menai. Ei hyd yw tua 14 milltir. Mae lled y Fenai yn amrywio o lai na chwarter milltir ger Porthaethwy, lle mae Pont Y Borth yn ei chroesi, a ger Llanfairpwll lle mae Pont Britannia yn ei chroesi, i tua 3 milltir a hanner yn ei phen gorllewinol. Yn y gorllewin ceir nifer o lagwnau bychain, Y Foryd ar y tir mawr a Thraeth Melynog ar dir Môn. I'r gogledd-ddwyrain o'r pontydd mae'r Fenai yn ymledu dros Draeth Lafan rhwng Penmon ac Ynys Seiriol yn y gogledd a Phenmaenmawr yn y de ac yn mynd yn rhan o Fae Conwy. Mae'r llanw yn rhedeg yn gyflym trwyddi weithiau ac yn gallu bod yn beryglus, yn arbennig yng nghyffiniau trobwll Pwll Ceris.

Pont Britania; ca. 1860

Ceir sawl tref a phentref ar ei glannau. Ar lannau Gwynedd ceir Caernarfon, Y Felinheli a Llanfairfechan, ac ar yr ynys ceir Porthaethwy a Biwmares.

Mae’r afon yn mynd i ddwy lle sef Pont Grog y Borth sydd yn cario’r A5, a Robert Stephenson 1850 Pont Britannia. Roedd Pont Britannia yn cario rheilffordd oedd yn symud bocsys mawr allan o heuan ond ar ôl tan fawr wnaeth dinistrio’r lle yn 1970 doedd yna bron iawn dim byd ar ôl yno. Ond cafodd i ail adeiladu a rŵan hefo rheilffordd a ffordd traffig sef y A55. Rhwng y ddwy pont mae yna ynys fach yno Ynys Gored Goch, hefo tai bach wedi cael ei adeiladu arno, a thrap pysgod sydd ddim yn cael ei defnyddio dim mwy.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae’r enw Menai yn dod o ‘Men-aw’ neu ‘Main-wy’, sydd yn meddwl ‘dŵr cul’. Yng nghwrs hanes Cymru gwelid sawl brwydr ar y Fenai neu ar ei glannau, o gyfnod y Rhufeiniaid pan wynebwyd lleng Suetonius Paulinus gan derwyddon a gwragedd Môn i Oes y Tywysogion. Un o fwriadau'r Saeson wrth godi castell Biwmares a chastell Caernarfon oedd gwarchod y fynedfa i'r Fenai o'r ddau ben.

Yn yr 11 canrif daeth dwy ffrind gyda'i gilydd i dwyn o Gymru ond wrth iddyn nhw wneud hynny dechreuodd y ddwy ffraeo a chawsant nhw frwydr yn yr Afon Menai. Ei enwau oedd Echmarcach mac Ragnaill ac Guttorm Gunnhildsson. Curodd Guttorm wrth weddïo i'r Sant Olaf ac roedd Echmarcach wedi cael ei lladd.

Yn yr 12 canrif roedd yna frwydr arall yn yr afon Menai gan iarll o’r enw Magnus Erlendson, sant Magnus yn y dyfodol. Roedd yn cael ei nabod oherwydd bod yn grefyddoldeb a thirionder. Roedd yn gwrthod i ymladd yn y frwydr yn Ynys Môn, mi wnaeth aros yn ei chwch. Ac mae’r digwyddiad yma wedi troi i nofel o’r enw ‘Magnus’ ac opera o’r enw ‘The Martyrdrome of Sant Magnus’. Ac mae’r naw darn cyntaf wedi cael ei enwi ‘The Battle of Menai Strait’.

Roedd yna ddigwyddiad gyda awyren. Roedd yn stormus iawn ac er roedd y ddynes eisiau trio pasio trwyddo, roedd yr awyrennwr yn gwybod bysant nhw ddim yn gwneud o drwy'r storm. Oherwydd y storm mi wnaethom gael ddamwain i mewn i bont, ond mi wnaeth neb byw. Os rydach yn mynd yno rŵan ac yn edrych yn agos ar y bont a'r tai o amgylch rydach yn gallu gweld hoelion o’r digwyddiad.

Gwreiddyn[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae’r Afon rydem yn weld heddiw yn ganlyniad o achosiad erydiad rhewlifol o’r creigwely ymlaen llinell gwan roedd mewn cysylltiad gyda nam yn y system yn yr Afon Menai. Trwy'r gyfres o gynfas o rew ac oherwydd hynny symudodd o gogledd-ddwyrain ar draws Ynys Môn a llefydd cyfagos Arfon ac yn ysgwrfa'r graig ar y gwaelod, a gronyn hefyd yn teithio'r un ffordd. Y canlyniad oedd cyfres o greigwely llinol tyno trwy’r frodir. Roedd y rhan dwfn wedi cael ei orlifo gan y môr ar y diwedd o’r oes rhew pan gorffennodd.

Ecoleg[golygu | golygu cod y dudalen]

Am fod y llanw mor anghyffredin a'i dyfroedd mor gysgodedig, mae gan y Fenai ecoleg amrywiol ac unigryw. Ceir nifer o ysbynau môr yno. Sefydlwyd Ysgol Gwyddorau'r Môr Prifysgol Cymru, Bangor yn rhannol er mwyn ei hastudio. Gobeithir troi'r rhan fwyaf o'r Fenai yn Warchodfa Morwrol yn y dyfodol agos. Mae llawer o'r tir ar lannau Menai ar ochr Ynys Môn, rhwng Ynys Llanddwyn a Phorthaethwy, eisoes yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.

Effaith y Llanw[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae’r effaith rydach yn weld mae’r llanw yn cael yn gallu fod yn ddryslyd weithiau. Wrth i godiad llanw dynesu o’r de-orllewin, sydd yn achosi’r dŵr i ddilyn a mynd gogledd-ddwyrain ac wrth i hynny digwydd mae’n achosi’r lefelau’r dŵr i godi. Hefyd mae’r llanw yn llifo o amgylch Ynys Môn hyd nes, ar ôl ychydig o amser, mae’n dechrau llifo i'r afon a mynd i'r cyfeiriad de-orllewin o Biwmares. Erbyn yr amser mae hwn yn digwydd mae’r llanw o ddiwedd Caernarfon yn gwanhau ac mae’r llanw yn cario mlaen i godi mewn taldra ond mae’r ffordd mae’r llanw’n mynd yn newid.

Galeri[golygu | golygu cod y dudalen]

Geirdarddiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'n bosib mai tarddiad y gair Menai ydyw 'Men', sef 'mynd'.[1]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Ar gof a Chadw: Arfordir Cymru;] S4C; adalwyd 27 Tachwedd 2015

Cysylltiadau allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: