Pier y Garth
![]() | |
Math | pier ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Bangor ![]() |
Sir | Gwynedd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 0 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 53.2374°N 4.12292°W ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Siân Gwenllian (Plaid Cymru) |
AS/au | Hywel Williams (Plaid Cymru) |
![]() | |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II* ![]() |
Manylion | |
Pier yn ninas Bangor, Gwynedd yw Pier y Garth (enw swyddogol) neu Pier Bangor. Dyma'r pier ail hiraf yng Nghymru (y nawfed hiraf yng ngwledydd Prydain), sy'n ymestyn 1,500 troedfedd (472 medr) i Afon Menai. Fe'i lleolir tua hanner milltir i'r gogledd-ddwyrain o'r ddinas ei hun, yn ymyl rhan o Fangor a elwir Y Garth, sy'n rhoi ei enw iddo'n swyddogol er mai fel 'Pier Bangor' y mae'n cael ei adnabod yn gyffredinol. Bu bron iddo gael ei ddymchwel yn 1974 oherwydd ei gyflwr ar y pryd. Ond gwrthwynebwyd y cynllun gan bobl leol ac erbyn hyn mae'r pier wedi cael ei drwsio (rhwng 1982 a 1988) ac mae'n adeilad rhestredig Gradd II*.
Hanes[golygu | golygu cod]
Agorwyd y pier ar 14 Mai, 1896. Ei hyd gwreiddiol oedd 1,550 troedfedd. Roedd gwasanaeth fferi yn rhedeg o ben y pier dros y Fenai i safle ger Biwmares. Roedd llongau pleser arfordirol yn galw yno hefyd, yn teithio rhyngddo â Blackpool, Lerpwl ac Ynys Manaw.


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
Dolenni allanol[golygu | golygu cod]
- Pier Bangor Archifwyd 2012-01-13 yn y Peiriant Wayback. ar wefan y National Piers Society