Arfon

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Bro hanesyddol yng Ngwynedd yw Arfon. Cantref oedd Arfon yn yr Oesoedd Canol, calon teyrnas Gwynedd a'i chnewyllyn. Yn ddiweddarach fe'i unid ag Arllechwedd a Llŷn i ffurfio'r sir newydd, Sir Gaernarfon, yn unol â thermau Statud Rhuddlan yn 1284. I'r gogledd dros y dŵr roedd Ynys Môn, i'r dwyrain cantref Arllechwedd, i'r de cantref Eifionydd (a oedd gydag Ardudwy yn rhan o frenhiniaeth gynnar Dunoding) ac i'r gorllewin cantref Llŷn. Mae Arfon yn parhau fel enw bro ac fel uned eglwysig, sef Deoniaeth Arfon yn Esgobaeth Bangor.

Cantref[golygu]

Castell Dolbadarn - prif amddiffynfa Arfon

Fel mae'r enw'n awgrymu, mae Arfon yn wynebu ar Fôn dros Afon Menai ac yn rheoli'r mynediad i'r culfor strategol hwnnw sydd wedi chwarae rhan mor bwysig yn hanes Cymru. Roedd y cantref yn ymestyn, yn fras, o gopaon Yr Eifl yn y gorllewin i Afon Cegin, rhwng Bangor a Llandygai, ac i mewn o lannau Afon Menai i'r de i galon Eryri, gan gynnwys Dyffryn Nantlle a bwlch strategol Llanberis. Yn nhermau ei daearyddiaeth roedd yn gantref amrywiol iawn, yn cynnwys lleiniau o dir ffrwythlon a phorfa bras ar lan Afon Menai ac yn y dyffrynoedd, nifer o goedwigoedd ar y llethrau a'r bryniau is, a mynyddoedd uchaf Cymru fel Tryfan a'r Wyddfa.

Roedd Arfon yn cynnwys dau gwmwd, a greuwyd yn ddieweddarach yn ei hanes, fe ymddengys, sef Arfon Is-Gwyrfai ac Arfon Uwch-Gwyrfai, gyda Afon Gwyrfai yn ffin rhyngddyn nhw.

Yn Oes yr Haearn a chyfnod y Rhufeinaid roedd yn rhan o diriogaeth yr Ordoficiaid ac roedd yn cynnwys yn ei thiriogaeth yr hen gaer Rufeinig yn Segontiwm a bryngaer Dinorwig. Ei phrif amddiffynfa yn Oes y Tywysogion oedd Castell Dolbadarn (ger Llanberis heddiw).

Ceid canolfannau eglwysig pwysig ym Mangor ('Bangor Fawr yn Arfon') a Chlynnog Fawr ('Clynnog Fawr yn Arfon'). Roedd esgobion Bangor, olynwyr Deiniol Sant, yn perchen rhan helaeth o dir gogledd-ddwyrain y cantref. Maenol Bangor oedd yr enw arno ond mae ei statws fel uned weinyddol o fewn y cantref yn ansicr. Roedd Clynnog yn perchen tiroedd bras yn Llŷn ac ar Ynys Môn.

Gweler hefyd[golygu]

Dolenni allanol[golygu]