Neidio i'r cynnwys

Yr Eifl

Oddi ar Wicipedia
Yr Eifl
Mathcopa, bryn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr561 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.9746°N 4.4379°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH3649544747 Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd429 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaMoel Hebog Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Manylion

Mynyddoedd ar arfordir gogleddol Llŷn, uwchben pentrefi Llanaelhaearn a Threfor, yw Yr Eifl, ffurf lluosog o'r gair “gafl”, sy'n golygu “pîg” neu “fforch”.[1] Llygriad o'r enw Cymraeg gwreiddiol yw'r enw Saesneg arno, The Rivals.[1] Mae'r olygfa o ben yr Eifl yn fendigedig gan fod y mynydd yn uwch nag unman arall yn Llŷn. Mae'n sefyll allan o bell hefyd ac yn arbennig o drawiadol o lannau de-orllewinol Ynys Môn, er enghraifft o Ynys Llanddwyn; cyfeiriad grid SH364447. Uchder cymharol, neu “amlygrwydd” y copa, ydy 131 metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.

Disgrifiad

[golygu | golygu cod]

Mae gan y mynydd dri chopa. Mae'r uchaf, Garn Ganol yn y canol (564m) â hen garnedd arno. Mae'r lleiaf, Garn Fôr neu Mynydd Gwaith i'r gogledd (444m), yntau gyda charnedd arno, dros Fwlch yr Eifl ac uwchben y môr. Mae'r trydydd, Tre'r Ceiri (485m) i'r de-ddwyrain uwchben pentref hanesyddol Llanaelhaearn, ac fe'i coronir â bryngaer hynafol nodedig iawn a elwir yn Dre'r Ceiri, sydd un o'r bryngaerau cynhanesyddol gorau yn Ewrop.

Dan gysgod Graig Ddu ar ei lethrau gorllewinol mae hen bentref chwarelyddol Porth y Nant neu Nant Gwrtheyrn, sydd ers blynyddoedd bellach yn ganolfan iaith genedlaethol. Ceir chwarel arall ar lethrau gogleddol y copa isaf, sef Chwarel Trefor. Gwenithfaen yw'r garreg.

O gwmpas y mynydd, o'r gogledd i'r gorllewin, ceir pentrefi Trefor, Llanaelhaearn a Llithfaen.

Y copa

[golygu | golygu cod]

Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn (mynydd) a Dewey. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghyd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[2] Uchder y copa o lefel y môr ydy 564m (1850tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ddiwethaf ar 28 Hydref 2001.

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • Ioan Mai Evans, Gwlad Llŷn (Llandybïe, 1968)

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]