Ynys Llanddwyn

Oddi ar Wicipedia
Ynys Llanddwyn
Mathynys lanwol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd0.3 km² Edit this on Wikidata
GerllawMôr Iwerddon Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.1375°N 4.4125°W Edit this on Wikidata
Map

Ynys lanw yng nghymuned Rhosyr ger Niwbwrch ar arfordir de-orllewinol Ynys Môn, yng ngogledd Cymru, yw Ynys Llanddwyn. Caiff ei gysylltu i'r tir mawr gyda sarn (neu rimyn o dir) pan fo'r llanw ar drai. Yn yr Oesoedd Canol bu'n rhan o gwmwd Menai, cantref Aberffraw.

Eglwys y Santes Dwynwen[golygu | golygu cod]

Cysylltir yr ynys fechan hon â'r Santes Dwynwen, nawddsant cariadon Cymru. Gellir cyrraedd gweddillion yr eglwys a gysegrir i Ddwynwen trwy ddilyn llwybr troed ar hyd yr ynys o'r sarn. Mae'r adfeilion yn perthyn i'r 16g ond credir bod eglwys hynafol ar y safle cyn hynny. Roedd yr eglwys hon yn rhan o ofalaeth Eglwys Gadeiriol Bangor a dyfodd yn gefnog gan fod cynifer o bererinion yn ymweld â'r ynys yn yr Oesoedd Canol. Ger yr eglwys mae Ffynnon Ddwynwen; credid fod symudiadau'r pysgod ynddi yn darogan y dyfodol i gariadon.

Natur[golygu | golygu cod]

Gellir cerdded i'r ynys dros y sarn tywod meddal pan fo'r llanw allan. Mae'n Warchodfa Natur. Ceir nifer o rywiogaethau o flodau gwyllt yno, yn cynnwys Pig yr Aran (Mynawyd y bugail). Ym mis Hydref mae nifer o adar i'w gweld ar yr ynys, gan gynnwys pibyddion coesgoch a phiod môr. Mae'r creigiau ar yr ynys yn perthyn i'r cyfnod cynambrian ac maent yn dros chwe chant miliwn mlwydd oed.[1]

Ym mhen draw'r ynys mae rhes o fythynnod pysgotwyr a dau oleudy. Mae'r baeau bychain yn dywodlyd. Ceir nifer o ynysoedd llai o'i chwmpas; Ynys yr Adar yw'r fwyaf o'r rhain.

Ceir golygfeydd o'r ynys dros fryniau Eryri a'r Eifl i'r de a'r de-orllewin.

Goleudai[golygu | golygu cod]

Ar Ynys Llanddwyn cewch ddau dŵr,Twr Bach a Thwr Mawr. Yn 1819 gosodwyd colofn tua 40 troedfedd ar safle y Twr Bach fel Tirnod. Adeiladwyd glanfa fachfel cysgod i longau a oedd yn disgwyl llanw mawr i fynd trwy'r Bar am Gaernarfon. Ond roedd problem gyda'r golofn. Roedd hi'n rhy isel ac felly doedd llongau o bell methu â gweld y golofn. Felly codwyd colofn fwy ar graig o'r enw Craig Estyth. Roedd y greigen yn greigen fwy na'r creigiau eraill. Gwyn galchwyd y ddwy golofn ac ar Ddydd Calan 1846 goleuwyd lamp fawr ar ben y Twr Mawr i forwyr gael eu harwain i mewn i Abermenai yn y tywyllwch.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Cylchgrawn Sir Môn. Wasg Gee, Dinbych. 1972. t. 12.