Cantref

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cantrefi.Medieval.Wales cy.png

Yr oedd cantref yn ardal ddaearyddol ac uned weinyddol yng Nghymru'r Oesoedd Canol, gyda'i chanolfan lys a'i maerdref gysylltiedig. Ystyr yr enw yn llythrennol yw "Cant o drefi" neu "gan trefgordd"; ond nid tref yn yr ystyr ddiweddar a olygir ond 'trefi' Cymreig canoloesol; unedau tebyg i'r plwyf eglwysig a sifil neu i gymunedau Cymru heddiw. Mae'r ffin rhwng rhai cantrefi hefyd yn ffin dafodiaethol, sy'n cadarnhau eu hynafiaeth.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Fel rheol yr oedd cantref yn cynnwys dau neu ragor o gymydau. Rhennid Cantref Aberffraw ym Môn yn ddau gwmwd, sef Llifon a Malltraeth, ond roedd ambell gantref mawr yn cynnwys hanner dwsin neu ragor o gymydau, e.e. Cantref Gwarthaf yn Nyfed gyda wyth cwmwd, sef Efelffre, Peuliniog, Talacharn, Amgoed, Ystlwyf, Penrhyn, Derllys ac Elfed. Roedd rhai o'r cantrefi, yn wir, yn deyrnasoedd a lyncwyd gan unedau mwy ac eraill yn unedau gwneud a grewyd yn ddiweddarach. Disodlwyd y rhan fwyaf o gantrefi gan y cwmwd, ond goroesodd llawer hyd at ddiwedd yr Oesoedd Canol.

Credid ar un adeg bod y cymydau hyn yn ddatblygiad diweddarach na'r cantrefi ond y tuedd erbyn hyn ydy ystyried mai'r cymydau yw'r unedau hynaf yn hytrach na'r cantrefi; yn sicr y cymydau oedd yr unedau gweinyddol sylfaenol yn yr Oesoedd Canol. Er hynny, mae rhai o'r cantrefi yn cyfateb i diriogaethau rhai o deyrnasoedd cynnar Cymru, e.e. Rhos yng ngogledd Cymru, neu yn coffau enwau llwythau Celtaidd, e.e. Tegeingl (y Deceangli).

Parhaodd nifer o'r hen gantrefi ar ôl cwymp Cymru annibynnol yn 1282-3. Dan y drefn Seisnig roeddent yn hundreds ('hwndrwd' ar lafar). Ni ddiflanodd yr hundreds hynny fel unedau lleol - yn enwedig ar gyfer ystadegau - tan y 19g.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Baner CymruEicon awrwydr   Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.