Derllys

Oddi ar Wicipedia
Derllys
Mathcwmwd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolTeyrnas Deheubarth, Cantref Gwarthaf Edit this on Wikidata
SirSir Benfro Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Yn ffinio gydaPenrhyn (cwmwd), Ystlwyf, Elfed (cwmwd) Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.8569°N 4.3164°W Edit this on Wikidata
Map

Un o wyth cwmwd canoloesol Cantref Gwarthaf yn ne-orllewin Cymru oedd Derllys. Yn wreiddiol yn rhan o deyrnas Dyfed, daeth yn rhan o deyrnas Deheubarth. Heddiw mae tiriogaeth y cwmwd yn gorwedd yng ngorllewin Sir Gaerfyrddin.

Cantref Gwarthaf a'i gymydau

Gorweddai Derllys yn nwyrain Cantref Gwarthaf am y ffin â chantref Cydweli a rhan o gwmwd Gwidigada yn Ystrad Tywi i'r dwyrain. O fewn Cantref Gwarthaf ffiniai â chymydau Penrhyn i'r de, Ystlwyf i'r gorllewin ac Elfed i'r gogledd.

Prif ganolfan y cwmwd oedd Caerfyrddin, tref a sefydlwyd gan y Rhufeiniaid yn wreiddiol (gweler Maridunum). Dyma un o ganolfannau eglwysig pwysicaf y rhan hon o Gymru hefyd, lleoliad esgobdy Llan Deulyddog lle ysgrifennwyd Llyfr Du Caerfyrddin.

Mae gan y bardd canoloesol Prydydd Breuan gerdd fawl i Faredudd o Ynys Derllys (maenor cwmwd Derllys), a leolid fymryn i'r de o dref Caerfyrddin. Cedwir yr enw yn enw Clwb Golff Derllys, ar y safle.