Penrhyn (cwmwd)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Un o wyth cwmwd canoloesol Cantref Gwarthaf yn ne-orllewin Cymru oedd Penrhyn. Yn wreiddiol yn rhan o deyrnas Dyfed, daeth yn rhan o deyrnas Deheubarth. Heddiw mae tiriogaeth y cwmwd yn gorwedd yn ne-orllewin Sir Gaerfyrddin.

Cantref Gwarthaf a'i gymydau

Gorweddai Penrhyn yn ne-ddwyrain Cantref Gwarthaf gydag Afon Tywi yn gorwedd rhyngddo a chantref Cydweli dros yr afon i'r dwyrain. Roedd aber Afon Taf yn dynodi'r ffin orllewinol rhwng Penrhyn a chwmwd Talacharn. I'r gogledd gorweddai cymydau Ystlwyf a Derllys. Roedd yn ffurfio penrhyn naturiol rhwng aberodd Tywi a Thaf, felly, a dyna sut y cafodd ei enw.

Prif ganolfan y cwmwd oedd Llansteffan, tref a sefydlwyd gan y Normaniaid. O'u castell yn y dref honno rheolai arglwyddi Llansteffan yr arglwyddiaeth o'r un enw, a oedd yn cynnwys hefyd cwmwd Derllys. Wedi ei gipio o ddwylo tywysogion Deheubarth, roedd yr arglwyddiaeth ym meddiant y teulu Carnville Normanaidd.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]