Afon Tywi

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Afon Tywi
River Towy at Llansteffan - geograph.org.uk - 13989.jpg
Math Afon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Cymru Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.253°N 3.7564°W, 52.2531°N 3.7564°W, 51.7336°N 4.3989°W Edit this on Wikidata
Tarddiad Elenydd Edit this on Wikidata
Aber Bae Caerfyrddin Edit this on Wikidata
Llednentydd Afon Brân, Afon Cothi, Afon Gwili, Afon Sawdde Edit this on Wikidata
Dalgylch 1,333 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd 121 cilometr Edit this on Wikidata
Arllwysiad 45 metr ciwbic yr eiliad Edit this on Wikidata

Mae Afon Tywi yn afon yn ne-orllewin Cymru. Hi yw'r afon hwyaf sy'n gyfangwbl yng Nghymru, yn 108 km (68 milltir) o hyd.

Cwrs[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Afon Tywi yn tarddu ar lethrau Crug Gynan, yn agos i'r ffin rhwng Ceredigion a Phowys. Yn fuan wedyn mae'n llifo trwy Llyn Brianne, cronfa a ffurfiwyd trwy adeiladu argae ar draws yr afon. Pwrpas yr argae yw rheoli llif yr afon, a'i gwneud yn bosibl i gymeryd dŵr o'r afon yn Nant Garedig. Mae'r cynllun yma yn darparu dŵr i ran helaeth o ardaloedd diwydiannol de Cymru. Yn fuan ar ôl iddi adael y llyn, mae Afon Doethïe yn ymuno â hi.

Mae'r afon yn llifo tua'r de-orllewin ac yn cyrraedd Sir Gaerfyrddin gan lifo trwy Llanymddyfri, lle mae Afon Brân yn ymuno â hi, Llanwrda a Llangadog, lle mae Afon Sawdde yn ymuno. Mae Afon Dulais yn ymuno ychydig cyn cyrraedd Llandeilo ac Afon Cennen yn fuan wedyn. Ychydig ar ôl mynd heibio Llanarthne, mae Afon Cothi yn ymuno. Mae'n llifo trwy dref Caerfyrddin, lle mae Afon Gwili yn ymuno yn Abergwili. Mae'n cyrraedd y môr gerllaw Llansteffan, gan rannu aber ag Afon Tâf ac Afon Gwendraeth.

Afon Tywi yn dirwyn ar draws Sir Gaerfyrddin rhwng y Dryslwyn a Llanegwad
Aber yr Afon Tywi yn Llansteffan

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
StubburWales.png Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.