Afon Doethïe
Gwedd
| Math | afon |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Ceredigion |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 52.138997°N 3.801685°W |
![]() | |

Afon yng Ngheredigion sy'n llifo i mewn i Afon Tywi yw Afon Doethïe.
Tardda'r nentydd sy'n ffurfio'r afon ar yr ucheldir i'r dwyrain o dref Tregaron, o gwmpas Llyn Berwyn a choedwig Cwm Berwyn. Ffurfir Afon Doethie Fawr yma, ac wedi llifo tua'r de am ychydig, mae Afon Doethie Fach yn ymuno â hi. Llifa ymlaen tua de, a ger Troed Rhiw Cymmer, mae afon Pysgotwr-fawr yn ymuno â hi. Ychydig ymhellach tua'r de, mae'n ymuno ag Afon Tywi ger Ystradffin.
