Llyn Brianne
Gwedd
| Math | cronfa ddŵr |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 52.13°N 3.75°W |
| Rheolir gan | Dŵr Cymru |
![]() | |
Cronfa ddŵr ym mlaen Afon Tywi yn Sir Gaerfyrddin yw Llyn Brianne. Adeiladwyd argae i greu'r llyn yn 1972 er mwyn rheoli llif Afon Tywi ac i gynorthwyo tynnu dŵr o Nant Garedig yn rhan isa'r afon. Mae'n cyflenwi dŵr yfed i Abertawe a rhannau eraill o'r de hyd at gyffiniau Caerdydd.
Mae gorsaf egni hydro fechan wedi cael ei hadeiladu yno hefyd.
