Egni hydro

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Gwaith hydroelectrig Llyn Stwlan, ger Ffestiniog, Gwynedd lle cynhyrchir 360 MW o drydan o fewn eiliadau o wasgu botwm

Egni (ar furf trydan) wedi'i gynhyrchu o ddŵr ydy egni hydro neu egni dŵr neu hydroelectrig ac mae sawl math ar gael heddiw. Daw o ganlyniad i ddŵr yn symud mewn gwahanol ffyrdd, er enghraifft, dŵr yn troi olwyn y felin. Ymhlith y dulliau mwyaf poblogaidd o greu trydan, y mae hydroelectrig megis 'mynydd electrig', Llanberis lle mae dŵr y llyn yn llifo i lawr pibellau drwy rym disgyrchiant ac yn troi tyrbeinau. Cynhyrchir 1728 MegaWatt (MW) o drydan yma drwy droi chwe generadur anferthol.

Ceir dulliau eraill o symud egni o un lle i'r llall drwy egni hydro ee

  • tyrbeini mewn afonydd
  • egni o'r llanw
  • egni allan o donnau'r môr
  • egni allan o fortecs

Ceir hefyd ffermydd gwynt yn y môr, ffermydd megis fferm wynt North Hoyle gerllaw Prestatyn, ond nid oes a wnelo'r rhain ddim oll ag egni hydro. Ynni gwynt a gynhyrchir o felinau gwynt ar y môr yw'r rhain.

Ynni hydro cyntaf gwledydd Prydain[golygu]

Yr egni hydro cyntaf i'w gael ei gynhyrchu yng ngwledydd Prydain oedd yng Nghwm Dyli ger Beddgelert, ar 13 Awst, 1906 gyda'r dŵr yn llifo i lawr y mynydd o Lyn Llydaw.[1]

Morglawdd afon Hafren[golygu]

Bu cryn sôn ar ddechrau 2008 am osod argae neu forglawdd ar draws Afon Hafren gyda sawl tyrbein yn cynhyrchu cymaint o egni â dau gorsaf niwclear. Amrediad llanw aber yr Afon Hafren yw'r ail fwyaf yn y byd ac mae'n gallu esgyn mor uchel ag 14 metr. Ar hyn o bryd mae'r safleoedd canlynol hefyd yn cael eu hystyried ar gyfer crynhoi pwer o lif dŵr: Penfro, Afon Hafren (8640 MW), Conwy (33MW) a Merswy (700 MW).

Cheina[golygu]

Saif Argae'r Tri Cheunant (sy'n creu 22,500 MW o drydan) yn Tsieina yn 1994.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Rhywbeth Bob Dydd gan Hafina Clwyd, cyhoeddwyd gan wasg Carreg Galch, Medi 2008, tudalen 108.