Beddgelert

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Beddgelert
Y bont dros Afon Glaslyn ym Meddgelert.
Bedd Gelert
Egwys y Santes Fair
Ffenest, Croes Celtaidd a'r haul drwy'r ffenestr oddi fewn i Egwys y Santes Fair.

Pentref a chymuned yng Ngwynedd yw Beddgelert; Cyfeirnod OS: SH 59157 48176. Fe'i lleolir ar lecyn deniadol iawn yng nghanol Eryri. Saif ger aber Afon Glaslyn ac Afon Colwyn. Fymryn islaw'r aber rhed yr afon dan hen bont gerrig â dau fwa yng nghanol y pentref. Mae nifer o'r tai a'r gwestai wedi'u hadeiladu o gerrig tywyll lleol. I'r gorllewin mae Moel Hebog a'i chymdogion ac i'r gogledd ceir cyfres o fryniau sy'n codi i ben Yr Wyddfa. Mae lôn yr A4085 rhwng Caernarfon (13 milltir i'r gogledd) a Porthmadog (8 milltir i'r de) yn rhedeg trwy'r pentref. Mae lôn arall yn arwain i galon mynyddoedd Eryri trwy Nant Gwynant i Ben-y-gwryd, ac ymlaen i Gapel Curig neu Llanberis.

Y fynachlog a'r eglwys[golygu | golygu cod y dudalen]

Prif erthygl: Priordy Beddgelert

Ger canol y pentref saif Eglwys y Santes Fair ar safle priordy cynharach. Dyma'r Beddgelert gwreiddiol. Hen fynachlog Gymreig oedd hi a sefydlwyd yn ôl traddodiad gan y sant Celert. Yn ddiweddarach yn yr Oesoedd Canol newidiodd yn fynachlog Awstinaidd, yn bennaf er mwyn ceisio gwrthsefyll hawliau abaty Sistersiaidd Aberconwy i dir yn yr ardal.

Mae'r eglwys bresennol yn ddiweddarach, ond mae'n cynnwys rhannau o gapel yr hen briordy, yn arbennig dau fwa cerrig a ffenestr lanset hardd sy'n perthyn i'r 13eg ganrif. Atgyweiriwyd yr eglwys yn sylweddol yn 1882.

Chwedl Gelert[golygu | golygu cod y dudalen]

Prif erthygl: Chwedl Gelert

Cysylltir Beddgelert â "Chwedl Gelert". Yn ôl y stori boblogaidd, cafodd y pentref ei enwi ar ôl un o hoff fytheiad Llywelyn Fawr, Gelert, a gladdwyd yno. Ychwanegwyd at yr hen stori hon, yn ôl pob tebyg, gan dafarnwr lleol, yn y 18ed ganrif a dechrau'r 19eg ganrif, er mwyn denu ymwelwyr i'r pentref. Cododd David Prichard, tafarnwr y Goat a dyfeisiwr y chwedl, ddwy garreg ar lan Afon Glaslyn i nodi safle bedd Gelert.[1] Ceir chwedlau cyffelyb mewn sawl diwylliant arall ac mae'r thema yn cael ei hadnabod fel motif llên gwerin rhyngwladol.

Posibilrwydd arall yw mai ar ôl y sant cynnar o'r enw Celert yr enwyd y pentref. Gelwir bwthyn ger y bont yn 'Fwthyn Llywelyn' hefyd, ond mae'n dyddio o'r 17eg ganrif.

Carreg Fellt Beddgelert[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym mis Medi 1949 disgynnodd carreg fellt (meteorite) ar westy'r Prince Llywelyn yn yr oriau mân, gan ddifrodi to'r gwesty ac ystafell wely yno. Disgrifiodd yr Herald Cymraeg y digwyddiad fel "dirgelwch".

Yn ddiweddarach gwerthodd perchennog y gwesty hanner y garreg i'r Amgueddfa Brydeinig a'r hanner arall i Brifysgol Durham a oedd wedi gosod hysbysebion yn y papurau lleol yn gofyn am wybodaeth o'r digwyddiad ac yn cynnig gwobr ariannol am hynny.[2]

Cyfeirir at y garreg fellt hon fel y "Beddgelert meteorite" yn y papurau gwyddonol. Dyma'r ail garreg fellt yn unig i daro'r ddear yng Nghymru erioed - disgynnodd y gyntaf ym Mhontllyfni ym 1931 - rhw bymtheg milltir i ffwrdd ar ben arall crib Nantlle.

Atyniadau a hynafiaethau yn yr ardal[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Dinas Emrys - bryngaer a chastell a gysylltir â chwedl Myrddin a'r brenin Gwrtheyrn
  • Bwthyn Llywelyn, neu Tŷ Isaf fel y'i gelwir heddiw - tŷ hynaf Beddgelert
  • Mwynglawdd Sygn - hen gloddfa copr
  • Pont Aberglaslyn - mae llwybr deniadol yn dilyn cwrs hen reilffordd o Feddgelert i'r bont, gan ddilyn glan Afon Glaslyn

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Beddgelert (pob oed) (455)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Beddgelert) (231)
  
52%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Beddgelert) (230)
  
50.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Beddgelert) (92)
  
42.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwyddoniadur Cymru, Gwasg Prifysgol Cymru, 2008, tudalen 370.
  2. http://www.jonesbryn.plus.com/wastronhist/meteorites.html
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: