Minffordd (Penrhyndeudraeth)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Minffordd (Penrhyndeudraeth)
Minffordd - Ffestiniog Railway Station.JPG
Math pentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Gwynedd Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52°55'36"N, 4°4'52"W Edit this on Wikidata
Cod OS SH601386 Edit this on Wikidata

Mae Minffordd ("Cymorth – Sain" ynganiad ) yn bentref ar y briffordd A487 rhwng Porthmadog a Penrhyndeudraeth yng Ngwynedd. Saif ar ochr ddwyreiniol y Cob, sy'n ei gysylltu a Phorthmadog. Mae pentref Portmeirion ychydig i'r de-orllewin.

Gorsaf Minffordd.

Datblygodd y pentref fel man i groesi'r Traeth Mawr cyn adeiladu'r cob; gellid croesi ar droed pan oedd y llanw i lawr. Mae Rheilffordd y Cambrian a Rheilffordd Ffestiniog yn rhedeg trwy'r pentref, ac yng ngorsaf Minffordd y gellir newid o un i'r llall. Yn 1812 daeth y pentref i sylw cenedlaethol pan lofruddiwyd Mary Jones, morwyn yn fferm Penrhyn Isaf, gan Thomas Edwards (Yr Hwntw Mawr).

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]