Dinas Dinlle

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dinas Dinlle
Dinas Dinlle 04 977.PNG
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.086°N 4.3363°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH435568 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auSiân Gwenllian (Plaid Cymru)
AS/auHywel Williams (Plaid Cymru)
Map
Statws treftadaethSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Manylion

Pentref bychan yng ngogledd Gwynedd yw Dinas Dinlle ("Cymorth – Sain" ynganiad ) (cyfeiriad grid SH4356). Saif ar lan Bae Caernarfon i'r de o Abermenai, tua 5 milltir i'r de-orllewin o dref Caernarfon. Mae ym mhlwyf Llandwrog. Mae traeth Morfa Dinlle a'i dywod braf yn boblogaidd gan bobl leol ac ymwelwyr. Siaredir y Gymraeg gan 77.9% o'r boblogaeth.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Siân Gwenllian (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Hywel Williams (Plaid Cymru).[1][2]

Pentre Dinas Dinlle a'r traeth
Bryngaer Dinas Dinlle o'r de

Bryngaer[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg Prif erthygl: Dinas Dinlle (bryngaer)

Enwir y pentref ar ôl bryngaer Dinas Dinlle ar draeth Morfa Dinlle gerllaw. Mae'n gaer arfordirol o bridd a'i ochr orllewinol wedi'i hysu i ffwrdd gan y môr erbyn hyn. Codwyd dau glawdd anferth o gwmpas y bryn gan yr adeiladwyr. Tybir ei fod yn perthyn i ail gyfnod Oes yr Haearn (Oes yr Haearn B). Cafwyd gwrthrychau ynddi sy'n dyddio i'r 2ail ganrif a'r 3g, sy'n dangos fod pobl yn dal i fyw yno yng nghyfnod y Rhufeiniaid.

Mae'r gaer yn enwog yn llenyddiaeth Gymraeg a diwylliant Cymru oherwydd ei chysylltiad â Phedair Cainc y Mabinogi.

Yn y môr gyferbyn â Dinas Dinlle ceir Caer Arianrhod, cartref arallfydol Arianrhod yn y Mabinogi.

Morfa Dinlle[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg Prif erthygl: Morfa Dinlle

Mae Morfa Dinlle, i'r dwyrain o'r pentref, yn gorsdir arfordirol a dynodwyd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014