Dinas, Llanwnda

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dinas
Plas Dinas (geograph 3697362).jpg
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlanwnda Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.101°N 4.274°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH477585 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auSiân Gwenllian (Plaid Cymru)
AS/auHywel Williams (Plaid Cymru)

Mae Dinas yn bentrefan yng nghymuned Llanwnda, Gwynedd. Mae'n sefyll fymryn oddi ar y ffordd A487 ar y lôn gefn sydd yn rhedeg i'r gorllewin i gyfeiriad Felinwnda a Saron. Mae tua tair milltir i Gaernarfon.

Yn ogystal ag eglwys plwyf Llanwnda a dwy ystad fechan o dai a godwyd yng nghanol y 20g, ac ychydig o rai hŷn, yr oedd yma neuadd yn perthyn i eglwys blwyf Llanwnda, nes iddi gau a chanolfan fodern agor yn Felinwnda tua hanner milltir i lawr y lôn i gyfeiriad y môr.[1]

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Siân Gwenllian (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Hywel Williams (Plaid Cymru).[2][3]

Prif nodweddion Dinas yw pencadlys Dŵr Cymru yn y Gogledd Orllewin; a phencadlys Rheilffordd Eryri. Yma mae sied injans y lein, sied fawr ar gyfer coetsis a gweithdai cynnal a chadw'r lein. Mae hen adeiladau Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru yn dal i sefyll, ond mae platfformau y lein fawr, oedd â caban signalau, lŵp a gorsaf yma, wedi diflannu.[4]

Cafodd y dreflan ei henwi yn ôl y plasty cyagos, sef Plas Dinas, oedd yn gartref i deulu Anthony Armstrong-Jones am ganrif a mwy (ac sy'n dal yn eu meddiant) er i'r adeilad bellach gael ei ddefnyddio fel bwyty a gwesty egsliwsif.[5]

Un o drigolion mwyaf amlwg oedd yr awdur, gweinidog ac ysgolfeistr, y Parch. Gareth Maelor Jones. Cafodd y dramodydd a'r awdur Aled Jones Williams ei ddwyn i fyny yn y Ficerdy yma.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan Cof y Cwmwd, [1], cyrchwyd 12.10.2018
  2. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  4. Gwefan Cof y Cwmwd, [2], cyrchwyd 12.10.2018.
  5. Gwybodaeth bersonol leol
WalesGwynedd.png Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato