Llanycil

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Llanycil
Parish Church of St Beuno, Llanycil, Gwynedd Wales 05.JPG
Mathcymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.9°N 3.6°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000088 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auDafydd Elis-Thomas (Annibynnol)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)

Pentref, cymuned a phlwyf yng Ngwynedd ydy Llanycil ("Cymorth – Sain" ynganiad ), sydd wedi ei leoli tua 12 milltir i'r de orllewin o Gorwen a 15 milltir i'r gogledd ddwyrain o Dolgellau. Hyd 1974 bu'n ran o Sir Feirionnydd.

Cysgegrir eglwys y plwyf i Sant Beuno.

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Dafydd Elis-Thomas (Annibynnol) a'r Aelod Seneddol yw Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[1][2]

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanycil (pob oed) (416)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanycil) (325)
  
80.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanycil) (312)
  
75%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanycil) (45)
  
26.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Eglwys Sant Beuno[golygu | golygu cod y dudalen]

Saif Eglwys Sant Beuno ar lan Llyn Tegid, rhwng y llyn a'r A494; cyfeirnod OS: SH9146934868. Fe'i cofnodir am y tro cyntaf yn 1291. Ynddi, ers 2016, lleolwyd amgueddfa ar Mari Jones, ac ni cheir gwasanaethau. Yn agos at yr eglwys roedd yma unwaith ffynnon o'r un enw: Ffynnon Beuno. Yr ochr arall i'r briffordd mae hen Reithordy. Mae'r eglwys wedi'i chofrestru'n Gradd II a'i chodi o garreg lleol. Yn haenau isaf y waliau gellir gweld brics Rhufeinig a cherrig a gludwyd yma o Gaer Gai, hen gaer Rufeinig a leolir tua milltir i gyfeiriad Llanuwchllyn.[6]

Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Coflein[dolen marw]; adalwyd 23 Mai 2016

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]


WalesGwynedd.png Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato