Dafydd Cadwaladr

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Dafydd Cadwaladr
Ganwyd 1752 Edit this on Wikidata
Llangwm, Conwy Edit this on Wikidata
Bu farw 9 Gorffennaf 1834 Edit this on Wikidata
Cenedl Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth pregethwr Edit this on Wikidata
Plant Betsi Cadwaladr Edit this on Wikidata
Bedd Dafydd Cadwaladr yn Eglwys Sant Beuno, Llanycil.

Roedd Dafydd Cadwaladr (17529 Gorffennaf 1834) yn gynghorwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd (M.C.) ac yn fab i Cadwaladr Dafydd a'i wraig Catrin o Erw Dinmael, Llangwm, sir Conwy.[1]

Bu ei rieni yn dilyn anterliwtiau a chymhorthau gwau traddodiadol, a thra'n ifanc dysgodd Dafydd o'r Llyfr Gweddi, ac i rigymu a darllen fel yr arferai adrodd y Bardd Cwsg a Thaith y Pererin yn y cymhorthau. Gweithiodd fel gwas ffarm mewn sawl lle ac yna, yn 1771, aeth i weini at y pregethwr William Evans o Fedw Arian ger y Bala.

Priododd Judith Humphreys yn 1777 a symydodd y ddau i fyw i dyddyn Penrhiw, sef eiddo y Parch. Simon Lloyd. Ganwyd naw plentyn iddynt, a daeth dwy o'r merched yn adnabyddus yn eu dydd, sef: Elizabeth Davis, y nyrs 'Betsi Cadwaladr' (Balaclava), a Bridget a fu'n gweini gydag Augusta Hall, Arglwyddes Llanofer yn Llundain ac yn Llanofer.

Dechreuodd Dafydd bregethu tua 1780 a chan y medrai'r Beibl ar dafod-leferydd, dywedasai un o'i ferched mai dan wau (h.y. 'yn gyflym iawn') y paratoai ei bregethau. Arferai gerdded pellteroedd maith i gyhoeddi'r efengyl ar hyd a lled Cymru, gan gynnwys Llundain, ac fel llawer o bregethwyr Methodistaidd eraill ei ddydd, roedd yn gyfaill mawr i Thomas Charles. Dafydd Cadwaladr a ganodd farwnadau i Mr. a Mrs. Charles [2], a bu farw yntau ar 9 Gorffennaf 1834, a'i gladdu yn Llanycil [3].

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1.  Y Bywgraffiadur Cymreig - Dafydd Cadwaladr. Llyfrgell Cenedlaethol Cymru. Adalwyd ar 14 Ebrill 2016.
  2. Cadwaladr, Dafydd (1815) ; Ehediadau y Meddwl. Bala
  3. Di-enw. (1836) ; Ychydig gofnodau am fywyd a marwolaeth Dafydd Cadwaladr, yr hwn a fu farw Gorffennaf 9, 1834, wedi bod yn bregethwr llafurus ym mysg y Trefnyddion Calfinaidd 52 mlynedd. Bala.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • O'r Ychydig Gofnodau ar … Dafydd Cadwaladr, dienw, cyhoeddwyd yn y Bala yn 1836.