Augusta Hall, Arglwyddes Llanofer

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Augusta Hall
Arfau Arglwyddes Llanofer
Un o luniau Augusta

Noddwraig y celfyddydau, y diwylliant gwerin a'r iaith Gymraeg oedd Augusta Hall, Arglwyddes Llanofer (21 Mawrth 1802 - 17 Ionawr 1896), neu Augusta Waddington Hall, ganed yn Augusta Waddington. Roedd hi'n adnabyddus hefyd wrth yr enw barddol Gwenynen Gwent. Fe'i cofir fel dyfeisydd y Wisg Gymreig.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed hi yn Llanofer, gerllaw Y Fenni yn Sir Fynwy, yn ferch ieuengaf Benjamin Waddington, Ty Uchaf, Llanofer a'i wraig Georgina Port. Yn 1823, priododd Benjamin Hall, priodas a unodd ei ystad ef yn Abercarn a'i hystad hi yn Llanofer.

Roedd gan Arglwyddes Llanover ddiddordeb mawr mewn astudiaethau Celtaidd, a dylanwadwyd arni gan Thomas Price (Carnhuanawc) wedi iddi ei gyfarfod mewn eisteddfod leol yn 1826. Dysgodd Carnhuanawc Gymraeg iddi, a chymerodd yr enw barddol "Gwenynen Gwent". Daeth yn aelod cynnar o gymdeithas Cymreigyddion Y Fenni. Yn Eisteddfod Caerdydd 1834, enillodd y wobr gyntaf am draethawd Advantages resulting from the Preservation of the Welsh language and National Costume of Wales. Roedd ganddi ddiddordeb arbennig yn y wisg Gymreig draddodiadol a hi a fu'n gyfrifol yn bennaf am ddyfeisio'r 'wisg genedlaethol' gyfarwydd gyda'i chlogyn goch a'r het dal ddu.

Yn 1850, cynorthwyodd i sefydlu Y Gymraes, y cylchgrawn cyntaf i ferched yn Gymraeg. Cyhoeddodd lyfr ar goginio traddodiadol Cymreig, ac roedd ganddi ddiddordeb yn y delyn, gan gyflogi telynor preswyl yn Llanover Hall. Ariannodd eiriadur Cymraeg Daniel Silvan Evans.

Roedd hefyd yn cefnogi'r Mudiad Dirwest, a chaeodd bob tafarn ar ei hystad.