Betsi Cadwaladr

Oddi ar Wicipedia
Betsi Cadwaladr
Ganwyd24 Mai 1789 Edit this on Wikidata
Llanycil Edit this on Wikidata
Bu farw17 Gorffennaf 1860 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysbyty Guy Edit this on Wikidata
Galwedigaethnyrs Edit this on Wikidata
TadDafydd Cadwaladr Edit this on Wikidata
Un o wardiau Ysbyty Scutari; ysgythriad o 1856
Carreg fedd newydd a roddwyd ar fedd Betsi yn Llundain yn 2012.

Nyrs yn Rhyfel y Crimea oedd Elizabeth "Betsi" Cadwaladr (24 Mai 178917 Gorffennaf 1860). Newidiodd ei henw i Elizabeth Davies pan oedd yn gweithio yn Lerpwl am nad oedd y Saeson yn gallu ynganu ei henw. Enwir Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar ei hôl.

Brodor o ardal Llanycil ger Y Bala oedd Betsi ac yn ferch i weinidog o'r enw Dafydd Cadwaladr (1752-1834).[1] Ym 1854, a hithau'n chwe-deg-pump oed, penderfynodd fynd yn nyrs i Ryfel y Crimea ar ôl darllen am ddioddefaint y milwyr yno. Roedd cannoedd o filwyr yn marw am nad oedd digon o nyrsys a meddygon ar gael.

Plentyndod ac ieuenctid[golygu | golygu cod]

Bu farw ei mam tua 1795-6, a bu o dan ofal chwaer hyn nas hoffai. Derbyniwyd hi ar aelwyd Simon Lloyd o Blas-yn-dre, perchen tyddyn ei thad, a thriniwyd hi'n garedig yno, ble dysgodd ddawnsio a chanu'r delyn, ond ffodd i Lerpwl yn bedair-ar-ddeg oed; glynodd yn dynn yno wrth yr achos Methodistaidd. Bu ar nifer o deithiau gyda theulu ei meistr gan ymweld ag amryw o wledydd ar y Cyfandir. Dychwelodd i'r Bala, ond ffodd drachefn, i Gaer, ac er mwyn osgoi priodi, dihangodd i Lundain, lle y bu'n aros yng nghartref John Jones, Glan-y-gors, Pentrefoelas. Honnai ei bod yn perthyn o bell iddo.

Crwydro'r byd a Shakespeare[golygu | golygu cod]

Ymwelodd a'r Bala yn 1820, a disgrifiodd y lle fel 'lle diflas'. Yna aeth yn forwyn i deulu capten llong, a bu'n crwydro'r byd am flynyddoedd, gan gyfarfod pob math o bobl (megis William Carey a'r esgob Heber). Actiodd rhannau o ddramâu Shakespeare ar fwrdd y llong a 'mynd drwy anturiaethau cynhyrfus'. Ymdyngodd yn erbyn priodi a chredir ei bod yn ferch wrywaidd braidd. Wedi dychwelyd i Loegr, collodd ei henillion, ac aeth drachefn i wasnaethu. Dywedodd Charles Kemble iddi actio rhannau allan o Hamlet yng nghegin ei meistr, a chynigiodd iddi le yn ei gwmni drama gyda thâl o £50 yr wythnos. Bu yng Ngogledd Cymru yn 1844-5, ac yn y De yn 1849, gan fynychu sasiynau hefyd. Gadawodd ei meistr lawer o arian iddi, ond collodd hwnnw drwy driciau cyfreithiol mae'n debyg. Wedi hynny aeth yn weinyddes yn Guy's Hospital, Llundain ac arweiniodd hynny iddi dderbyn cynnig i fynd i weini i'r Crimea yn 1854.

Cyrraedd Twrci[golygu | golygu cod]

Yng nghanol Rhyfel y Crimea (1854-1856), cyrhaeddodd Beti Cadwaladr ysbyty baracs Selimiye (a elwir hefyd yn Scutari, yn nhref Scutari), Twrci lle roedd Florence Nightingale yng ngofal y nyrsys. Dros gyfnod y rhyfel bu farw 6,000 o filwyr yn y baracs hwn. Gwrthododd Florence Nightingale gymorth Beti a'r nyrsys eraill a ddaeth drosodd, gan ddweud bod digon o nyrsys ar gael.

Roedd hi'n daith chwe niwrnod i'r milwyr clwyfedig ddod o'r Crimea, ac roedd Beti yn gweld hyn yn ffolineb llwyr. Fe benderfynodd fynd dros y môr i'r Crimea atynt, ac aeth â nyrsys eraill gyda hi i ysbyty yn Balaclava. Gweithiodd Beti a'r lleill yn galed mewn amgylchiadau anodd iawn. Yn wir o fewn blwyddyn yr oedd yn sâl ei hun, a bu'n rhaid iddi ddod adre at ei chwaer yn Llundain.

Bu farw yn Llundain ar 17 Gorffennaf 1860. Credir iddi gael ei chladdu yn Llundain, ble ceir cofeb iddi.

Bedd Dafydd, tad Betsi, yn Eglwys Llanycil.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]