Pentrefoelas
Pentref a chymuned yn ne-ddwyrain Conwy yw Pentrefoelas. Mae'n gorwedd ar gyffordd yr A5 a'r B5113, 7 milltir i'r de-ddwyrain o Lanrwst a hanner ffordd rhwng Cerrig-y-drudion a Betws-y-Coed. Mae'n gorwedd yn ardal Uwch Aled a bu'n rhan o'r hen Sir Ddinbych gynt.
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae'r maen arysgrifiedig cynnar (gweler isod) a ddarganfuwyd wrth adeiladu'r A5 yn profi fod Pentrefoelas yn drigfan yn yr Oesoedd Canol cynnar. Plas Foel Las, i'r gogledd o'r pentref, oedd plas teuluol y Wynniaid.
Mae'r eglwys (dienw) yn bur gynnar ond cafodd ei hadnewyddu'n sylweddol yn y 19g. Ar ei muriau gwelir cofeb i John Griffith (m. 1794) o Gefn Amwlch, a honnai fod yn un o ddigynyddion Rhys ap Tewdwr, Tywysog Deheubarth. Ond diddordeb pennaf yr eglwys yw'r beddfaen ag arno arysgrifen Ladin, sy'n dyddio o'r 5g neu'r 6g.
Ger Pentrefoelas, darganfuwyd carreg gydag arysgrif Lladin arni sy'n diolch am rodd gan y tywysog Llywelyn Fawr i Abaty Aberconwy. Ar y garreg ceir y geiriau Lladin Cymreig hyn:
- Ed vidh LN DI env aLevone Fortitudine Brachii mesure Leveline princeps Northvallie
- "Daw'r enw 'Llewelin' o 'llew' ac o nerth 'elin', O Llywelyn, tywysog Gogledd Cymru!"
Daearyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Llifa Afon Merddwr i lawr y dyffryn ger y pentref gan lifo dan bont ar y B5113 ac ymuno ag Afon Conwy tua milltir yn is i lawr o Bentrefoelas.
Ychydig yn uwch i fyny'r dyffryn o Bentrefoelas ceir Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a adnabyddir fel Corsydd Nug a Merddwr.
Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3]
Pobl o Bentrefoelas[golygu | golygu cod y dudalen]
- John Thomas (1742-1814), bardd
- Eifion Wyn - treuliodd y bardd o Borthmadog gyfnod fel athro ysgol yn y pentref.
Oriel luniau[golygu | golygu cod y dudalen]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Abergele · Bae Cinmel · Bae Colwyn · Bae Penrhyn · Betws-y-Coed · Betws yn Rhos · Bryn-y-maen · Bylchau · Caerhun · Capel Curig · Capel Garmon · Cefn Berain · Cefn-brith · Cerrigydrudion · Conwy · Craig-y-don · Cwm Penmachno · Cyffordd Llandudno · Dawn · Deganwy · Dolgarrog · Dolwen · Dolwyddelan · Dwygyfylchi · Eglwysbach · Esgyryn · Gellioedd · Glanwydden · Glasfryn · Groes · Gwytherin · Gyffin · Hen Golwyn · Henryd · Llanbedr-y-cennin · Llandrillo-yn-Rhos · Llandudno · Llanddoged · Llanddulas · Llanefydd · Llaneilian-yn-Rhos · Llanfairfechan · Llanfair Talhaearn · Llanfihangel Glyn Myfyr · Llangernyw · Llangwm · Llanrwst · Llanrhos · Llanrhychwyn · Llan Sain Siôr · Llansanffraid Glan Conwy · Llansannan · Llysfaen · Maenan · Y Maerdy · Melin-y-coed · Mochdre · Nebo · Pandy Tudur · Penmachno · Penmaenmawr · Pensarn · Pentrefelin · Pentrefoelas · Pentre-llyn-cymmer · Pentre Tafarn-y-fedw · Pydew · Rowen · Rhydlydan · Rhyd y Foel · Tal-y-bont · Tal-y-cafn · Trefriw · Tyn-y-groes · Tywyn · Ysbyty Ifan
