Cyffordd Llandudno
Math | tref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.28°N 3.8°W ![]() |
Cod OS | SH794778 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr) |
AS/au | Robin Millar (Ceidwadwyr) |
![]() | |
Tref fechan yng nghymuned Conwy, bwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Cyffordd Llandudno[1] (Saesneg: Llandudno Junction).[2] Tyfodd o gwmpas yr orsaf o'r un enw ar Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru. Mae Rheilffordd Dyffryn Conwy, sy'n cysylltu Llandudno a Blaenau Ffestiniog, yn defnyddio'r orsaf yn ogystal. Gan fod y rhan fwyaf o deithwyr yn ymwelwyr i Landudno aeth 'Cyffordd Llandudno' yn enw yr orsaf newydd. Cyn dyfodiad y rheilffordd Tre Marl oedd enw'r pentref bach y tyfodd Cyffordd Llandudno ohoni. "Y Gyffordd" neu "Junction" yw ei enw ar lafar yn lleol.
Daearyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Yn hanesyddol, mae'n rhan o blwyf Llangystennin, gynt yn rhan o gwmwd Creuddyn. Fe'i lleolir tua tair milltir a hanner i'r de o Landudno ar lan ddwyreiniol Afon Conwy. Dros yr afon, sy'n aberu ym Mae Conwy yma, mae tref hanesyddol Conwy. Mae pont rheilffordd hynafol dros yr afon, a godwyd gan Robert Stephenson, hen bont grog a godwyd gan Thomas Telford, a phont ddiweddar yn cysylltu'r Gyffordd â Chonwy. Yn rhedeg dan yr afon ceir y twnel y mae lôn ddeuol yr A55 yn rhedeg drwyddo, gan osgoi'r Gyffordd ei hun. I'r gogledd mae Cyffordd Llandudno yn ymdoddi i dref Deganwy. I'r gogledd-ddwyrain mae bryniau'r Marl yn ei chysgodi. I'r dwyrain mae'r hen lôn yn arwain i Fochdre a Bae Colwyn.
Adeiladau[golygu | golygu cod y dudalen]
Yr adeilad amlycaf yn y dref yw Gorsaf reilffordd Cyffordd Llandudno.
Ar hen safle ffatri Hotpoint ar ymyl y dref ceir swyddfeydd rhanbarthol newydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn y Gogledd.
Ceir archfarchnad Tesco fawr a sinema amlsgrin ar gyrion y dref, rhwng yr orsaf a'r A55.
Ym mis Medi 2016, unodd y ddwy ysgol gynradd yng Nghyffordd Llandudno, Ysgol Maelgwn ac Ysgol Nant-y-Coed, i ffurfio ysgol newydd, Ysgol Awel y Mynydd.
Gwarchodfa Adar Glan Conwy[golygu | golygu cod y dudalen]
Yn ymyl y Gyffordd ar lan Afon Conwy ceir gwarchodfa adar Glan Conwy, dan ofal yr RSPB, sy'n lle da i weld adar dŵr o bob math. Mae'r safle yn ymestyn o'r Gyffordd i gyffiniau pentref Glan Conwy. Mae'r fynedfa ar bwys yr A55 wrth y drofa am y Gyffordd. Ceir maes parcio a chyfleusterau ymwelwyr yno, ynghyd â llwybrau cerdded trwy'r gwlybdir.
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
Pentrefi bychain ger y Gyffordd:
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
- ↑ British Place Names; adalwyd 20 Tachwedd 2021
Trefi
Abergele ·
Bae Colwyn ·
Betws-y-Coed ·
Conwy ·
Cyffordd Llandudno ·
Degannwy ·
Hen Golwyn ·
Llandudno ·
Llanfairfechan ·
Llanrwst ·
Penmaenmawr ·
Tywyn
Pentrefi
Bae Cinmel ·
Bae Penrhyn ·
Betws-yn-Rhos ·
Bryn-y-maen ·
Bylchau ·
Caerhun ·
Capel Curig ·
Capel Garmon ·
Cefn Berain ·
Cefn-brith ·
Cerrigydrudion ·
Craig-y-don ·
Cwm Penmachno ·
Dawn ·
Dolgarrog ·
Dolwen ·
Dolwyddelan ·
Dwygyfylchi ·
Eglwys-bach ·
Esgyryn ·
Gellioedd ·
Glanwydden ·
Glasfryn ·
Groes ·
Gwytherin ·
Gyffin ·
Henryd ·
Llanbedr-y-cennin ·
Llandrillo-yn-Rhos ·
Llanddoged ·
Llanddulas ·
Llanefydd ·
Llaneilian-yn-Rhos ·
Llanfair Talhaearn ·
Llanfihangel Glyn Myfyr ·
Llangernyw ·
Llangwm ·
Llangystennin ·
Llanrhos ·
Llanrhychwyn ·
Llan Sain Siôr ·
Llansanffraid Glan Conwy ·
Llansannan ·
Llysfaen ·
Maenan ·
Y Maerdy ·
Melin-y-coed ·
Mochdre ·
Nebo ·
Pandy Tudur ·
Penmachno ·
Pensarn ·
Pentrefelin ·
Pentrefoelas ·
Pentre-llyn-cymmer ·
Pentre Tafarnyfedw ·
Pydew ·
Rowen ·
Rhydlydan ·
Rhyd-y-foel ·
Tal-y-bont ·
Tal-y-cafn ·
Trefriw ·
Tyn-y-groes ·
Ysbyty Ifan