Conwy (tref)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cyfesurynnau: 53°17′N 3°50′W / 53.28°N 3.83°W / 53.28; -3.83

Conwy (tref)
Conwy Castle and Bridges.jpg
Castell Conwy a'r pontydd
Conwy is located in Conwy
Conwy

 Conwy yn: Conwy
Poblogaeth 14,208 (2001)
Cyfeirnod grid yr AO SH775775
Cymuned Conwy
Sir Conwy
Sir seremonïol Clwyd
Gwlad Cymru
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Tref bost CONWY
Rhanbarth cod post LL32/LL31
Cod deialu 01492
Heddlu Gogledd Cymru
Tân Gogledd Cymru
Ambiwlans Cymru
Senedd yr Undeb Ewropeaidd Cymru
Senedd y DU Aberconwy
Cynulliad Cymru Aberconwy
Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Conwy

Mae Conwy yn dref yn ngogledd Cymru, ym mwrdeistref sirol Conwy (Saesneg: Conway), a chyn hynny yng Ngwynedd a Sir Gaernarfon cyn hynny. Mae'n enwog fel tref gaerog, am ei chastell, ac am y pontydd ar draws Afon Conwy. Mae ganddi boblogaeth o tua 14,208, sydd hefyd yn cynnwys Deganwy a Chyffordd Llandudno. Mae'n un o brif atyniadau twristaidd Gogledd Cymru a

Daearyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Saif y dref ar lan orllewinol Afon Conwy, gan wynebu Deganwy, sydd yr ochr arall yr afon.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Codwyd y castell a'r waliau gan Edward I, brenin Lloegr, rhwng 1283 a 1289. Yma hefyd y safai Mynachdy Aberconwy, a sefydlwyd gan Llywelyn Fawr.

Ers dros 700 mlynedd, cynhelir Ffair Fêl Conwy ar strydoedd y dref ar y 15fed o Fedi bob blwyddyn.

Adeiladau[golygu | golygu cod y dudalen]

Atyniadau yn y cylch[golygu | golygu cod y dudalen]

Cludiant[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae gan Conwy orsaf ar Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru sy'n ei chysylltu â Chaergybi a Chaer.

Rhed nifer o wasanaethau bysiau rhwng Conwy a threfi a phentrefi Dyffryn Conwy ac ardaloedd eraill. Mae ar brif lwybr bws arfordir Gogledd Cymru yn ogystal.

Oriel[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]


Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Conwy (tref) (pob oed) (14,723)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Conwy (tref)) (3,901)
  
27.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Conwy (tref)) (8559)
  
58.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Conwy (tref)) (2,686)
  
40.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013


CymruConwy.png Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Conwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.