Llangystennin

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Llangystennin
LlangystenninChurch-P7010262.JPG
Math Pentref, anheddiad dynol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Conwy Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 53.2947°N 3.7939°W Edit this on Wikidata
Cod OS SH766688 Edit this on Wikidata

Mae Llangystennin (amrywiad : Llangwstennin) yn blwyf gwledig i'r de-ddwyrain o Landudno a Llanrhos ym Mwrdeisdref Sirol Conwy. Mae plwyf Llangystennin yn cynnwys Plas Llangystennin, pentrefi Mochdre, Pabo a Bryn Pydew, a thref Cyffordd Llandudno.

Enwir y plwyf ar ôl Sant Cystennin (Cystennin Fendigaid neu Cystennin ap Cynfor), mab Elen Luyddog o ardal Caernarfon yn ôl traddodiad ; gyda'i fam a'i frawd Sant Peblig dywedir iddo gyflwyno i Gymru mynachaeth Geltaidd Gâl yn y 5g.

Mae eglwys Llangystennin yn hen. Yn ôl traddodiad, codwyd eglwys seml ar y safle yn y 5g. Yn Oes y Tywysogion roedd ym meddiant Abaty Aberconwy ac am gyfnod yn perthyn i eglwys Abergele yn ddiweddarach. Yn ôl un fersiwn o'r hanes, gwrandawyd cwyn Dafydd ap Gruffudd, brawd Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Gwynedd, yn erbyn y brenin Harri III o Loegr yn Llangystennin ; gwysiwyd y brenin gan abadau Aberconwy a Chymer i ateb y cyhuddiad ond ni ddaeth (credir erbyn hyn mai i eglwys Caerwys y galwyd y brenin). Ceir ffenestr liw nodedig yn yr eglwys a meini coffa nifer o aelodau o deulu Llwydiaid Llangystennin yn ogystal.

Pobl nodedig a aned yn Llangystennin[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • E. D. Rowlands, Dyffryn Conwy a'r Creuddyn (Lerpwl, 1947)